'Rwyf wedi gorfod treulio'r bore'n mynd a chath deircoes at y milfeddygfa ynghylch niwed i un o'r coesau sydd ar ol, felly ymddiheuriadau ichi ac i Helen Phillips o Wasanaeth Cyfieithu'r Llywodraeth am yr oedi cyn anfon y neges isod ymlaen atoch. (O.N. Gobeithio mai dros dro bydd y niwed i'r goes, ond 'rwyf wedi gorfod prynu caets Rottweiler i gadw'r gath o ddrygioni am ychydig ddyddiau). Ann Yn unol â’m haddewid, dyma anfon atoch ddolen at y ddalen rydym newydd ei chyhoeddi ar BydTermCymru, sef: http://cymraeg.llyw.cymru/btc/ynghylchbtc/lansiobtc_ymateb/?lang=cy Byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddai modd ichi ei chyhoeddi ar y cylch trafod, gan nodi bod croeso i’ch aelodau gysylltu’n uniongyrchol â’r Gwasanaeth Cyfieithu drwy gyfrwng y cyfeiriad e-bost a gyhoeddir ar waelod y ddalen. On 16/07/2015 15:07, Ann Corkett wrote: > Newydd gael y neges isod gan y Gwasanaeth Cyfieithu. > > Ann > > Mae’r Gwasanaeth Cyfieithu yn ymwybodol o’r sylwadau – da a drwg – > sydd wedi ymddangos ar y Cylch Trafod Termau. Rydym hefyd wedi derbyn > rhai sylwadau yn uniongyrchol gan y cyfieithwyr sy’n aelodau o > Fframwaith Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd y Sector Cyhoeddus. > > Yn hytrach nag ymateb i bob neges yn unigol, rydym wedi penderfynu > cyhoeddi tudalen ar safle BydTermCymru i ddiolch i bawb am eu > sylwadau, ac i geisio ymateb i’r sylwadau hynny. > > Rydym yn gobeithio cyhoeddi’r dudalen naill ai ddiwedd prynhawn > heddiw neu ben bore yfory. Cysylltaf â chi eto i’ch hysbysu fod y > dudalen dan sylw wedi’i chyhoeddi. > > > > On 16/07/2015 12:12, Saunders, Tim wrote: >> Cofau cyfieithu'r Mesurau oedd gyda fi. >> >> Yn iach, >> >> T >> >> -----Neges Wreiddiol/Original Message----- >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen >> Sent: 15 July 2015 16:51 >> To:[log in to unmask] >> Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: ATB/RE: Term Cymru ar ei newydd wedd >> >> Be wyt ti'n feddwl, mynd ar y cyd i'w hagor? Mae'n agor yr un fath ag o'r blaen. >> >> On 15/07/2015 16:41, Saunders, Tim wrote: >>> Sut mae mynd ar y cyd i'w hagor? Wedi methu yn llwyr hyd yma. >>> >>> Yn iach, >>> >>> Tim >>> >>> -----Neges Wreiddiol/Original Message----- >>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and >>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On >>> Behalf Of Emily Hammett >>> Sent: 15 July 2015 16:05 >>> To:[log in to unmask] >>> Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Term Cymru ar ei newydd wedd >>> >>> Fi'n eitha lico fe. >>> >>> Mae'r ffaith fod y staws i'w weld yn syth o dan y term yn ddefnyddiol iawn, a'r ffordd y gellir hidlo yn ol cyd-destun/pwnc. >>> >>> Braf iawn hefyd fydd cael gweld/defnyddio eu cofau cyfieithu. >> ----- >> No virus found in this message. >> Checked by AVG -www.avg.com >> Version: 2015.0.6081 / Virus Database: 4392/10241 - Release Date: 07/16/15 > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> > Version: 2015.0.6081 / Virus Database: 4392/10241 - Release Date: 07/16/15 >