Print

Print


Rheoli Amgylcheddol
Amgueddfa Wrecsam - 15 Medi 2015
Castell Cyfarthfa - 3 Tachwedd 2015

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu'r cwrs hwn am ddim ar gyfer staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru. Mae'n addas ar gyfer y rheini sy'n gweithio mewn amgueddfeydd, archifdai, llyfrgelloedd neu dai hanesyddol, sydd eisoes â dealltwriaeth sylfaenol o faterion amgylcheddol ac sydd am weithredu neu wella cyfundrefn fonitro.

Nod
Rhoi gwybodaeth a chyfarwyddyd ymarferol o ran monitro'r amgylchedd. Data lleithder a thymheredd yw prif ffocws y cwrs.

Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy'n dilyn y cwrs yn gallu

*       Disgrifio'r ffactorau sy'n achosi dirywio
*       Deall sut mae lleithder, tymheredd a golau yn effeithio ar gasgliadau
*       Dechrau datblygu targedau amgylcheddol ar gyfer amodau cadw casgliadau, diogelu'r adeilad a chynnal yr hinsawdd
*       Edrych ar yr amrywiaeth o offer sydd ar gael ar gyfer monitro'r amgylchedd
*       Dysgu sut i ddefnyddio'r offer i gasglu data
*       Deall sut i ddehongli siartiau lleithder cymharol
*       Datblygu cynllun gweithredu yn seiliedig ar ganlyniadau monitro

Dulliau Hyfforddi
Bydd y sesiynau'n cynnwys cyflwyniadau, gweithgareddau, arddangosfeydd ac ymarferion. Darperir taflenni gwybodaeth a siartiau.

Paratoi
Caiff y cynrychiolwyr ddod â chopïau eu hunain o siartiau lleithder a thymheredd i'w trafod yn ystod y diwrnod.

Hyfforddwr
Jane Henderson, BSc, MSc, PACR, FIIC.
Mae Jane wedi bod yn gweithio ym maes cadwraeth a chasgliadau, a hefyd yn astudio'r maes hwn, yng Nghymru ers 1984. Mae Jane yn addysgu ar gwrs BSc mewn Cadwraeth a chwrs MSc mewn Gofalu am Gasgliadau ac Ymarfer Cadwraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Jane yw cynrychiolydd stiwardiaeth ar Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, ac yn ddiweddar mae wedi cwblhau chwe blynedd fel yr ymddiriedolwr sy'n cynrychioli Cymru ar gyfer ICON, y Sefydliad Cadwraeth. Ar hyn o bryd, mae'n gwasanaethu ar y panel sy'n golygu cylchgrawn y Sefydliad . Mae Jane yn Ymddiriedolwr yn yr Ymddiriedolaeth Casgliadau. Mae hi wedi cyhoeddi erthyglau yn ymwneud â gwneud penderfyniadau ynghylch cadwraeth; dylanwadu ar sut yr ydym yn gofalu am gasgliadau; arferion cadwraeth cynaliadwy; addysgu ac asesu cadwraeth.
Ar hyn o bryd mae Jane yn cynrychioli Icon ar y CEN TC 346 WG11, sydd wedi bod yn ystyried safon ar gyfer y broses gadwraeth, ac a fydd yn ystyried dogfennaeth a thendro maes o law. Mae hi wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy  MALD i fynychu cyfarfodydd y gweithgor.
http://www.cardiff.ac.uk/share/contactsandpeople/academicstaff/F-J/henderson-jane-ms-overview_new.html
[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>

Datganiad o ddiddordeb

I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma gwblhau'r ffurflen amgaeedig a'i ddychwelyd I [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.


Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, bydd eich derbyn neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyniwyd. Os gwelwch yn dda nodi nad yw eich lle yn cael ei gwarantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.


Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau'n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Seaneen McGrogan ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> neu ffoniwch 0300 062 2261 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.



Seaneen McGrogan
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Department for Economy, Science and Transport
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261