Print

Print


Mae TermCymru'n rhoi dim ond "DU" am "UK" ar ei ben ei hunan (Statws 1) ond yn defnyddio'r fannod mewn termau fel "punnoedd y DU" etc

Ydi hynna'n helpu?

Siān
On 2015 Meh 4, at 11:58 AM, Eluned Mai wrote:

> Bore da bawb!
> 
> Wedi bod yn pendroni a ddylwn i roi 'y' o flaen 'DU' pan fydd yn ymddangos mewn cromfachau mewn rhestr, e.e. Disability Organizations (Wales), Disability Organizations (UK).  Mi fydda i wastad yn ei gynnwys o fewn testun oherwydd y treiglad, ond mi wnes i ei hebgor yn awtomatig wrth ei deipio o fewn cromfachau y bore 'ma.  Wrth ei gynnwys (y DU) roedd yn edrych yn od i ddechrau ond wedyn, o edrych ar (DU) hebddo, roedd hwnnw'n edrych yn od hefyd gan mai TU ddylai o fod heb y fannod, a fasa gan neb syniad yn y byd beth fasa ystyr hynny.  Dwi ddim yn cofio sylwi arno o'r blaen, felly dwi ddim yn gwybod beth sy'n dderbyniol.  Ydw i'n hollti blew? Ddylen ni gymryd yn ganiataol bod y fannod ar goll?
> 
> Diolch am unrhyw sylwadau!
> 
>