Clywch clywch eto

Sent from my iPhone

On 17 Jun 2015, at 15:08, Eluned Mai <[log in to unmask]> wrote:

Dwi'n meddwl dylen ni wneud ein gorau i warchod yr hen deithi.  Os byddwn ni'n coll'r rhain, dyn â ŵyr beth fydd yn digwydd yn nes ymlaen i lawr y lôn.  Mi fydda i'n methu'n lân â chael cystrawen i redeg yn naturiol wrth gyfieithu ambell dro ac rydw i bron yn sicr bod hynny oherwydd bod rhyw ffurf naturiol wedi colli ei phlwyf ac nad yw'r newid sydd wedi cymryd ei lle yn ffitio'n daclus mewn rhai cystrawennau.  Mi ddylen ni fod yn ofalus iawn beth rydan ni'n wneud neu mi fydd ein disgynyddion ni'n methu creu cystrawen ystyrlon ac o ganlyniad yn methu cyfathrebu'n ystyrlon.  Er gwaethaf newidiadau mewn iaith, mae'r Gymraeg wedi llwyddo i gadw llawer o'i theithi hen a dwi'n meddwl mai dyna pam mae hi'n dal yn fyw. 



2015-06-17 13:40 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
Dwi ddim yn meddwl mai mater o fethu dirnad yw e jest o gydnabod bod yr iaith yn newid.  Ie?

Ond wedyn mae'n aros mewn rhai cyfuniadau fel "tri chant", "chwe cheiniog" a "chwe phunt".

Difyr!

Siân



On 2015 Meh 17, at 1:22 PM, David Bullock wrote:

 
Hefyd, oes modd cael gwybod pwy yw'r unigolyn neu'r unigolion sy'n disgwyl i deithi iaith newid fel hyn am eu bod nhw wedi deddfu? (Mae'n debyg bod ganddyn nhw gefndir cydnabyddedig ym maes ieithyddiaeth gymhwysol neu bwnc tebyg a phrofiad blynyddoedd lawer i ategu'r fath ddyfarniad ysgubol.)
 
Dim ond gofyn...
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 17 Mehefin 2015 12:08
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Three dogs
 
Cytuno gyda ti Matthew i raddai helseth. 
 
Dilyn cyfarwyddyd y sanhedrin yn adran addysg y llywodraeth ydwi. 
 
Doedden nhw ddim isho 'chwe chacen' chwaith....

Sent from my iPhone 


On 17 Jun 2015, at 11:57, Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]> wrote:

Dyw i wir ddim yn gweld pam y byddai rhywun am osgoi’r treiglad llaes i blant. Oes gan rywun unrhyw dystiolaeth gadarn bod plant yn cael ‘tri chi’ yn anodd ei ddeall?
 
Beth bynnag fo ein hidiolect unigol – a derbyn bod llawer yn dweud ‘tri ci’ (er fyddwn i ddim yn derbyn ‘bron pawb’ Geraint yn ddi-gwestiwn) – ‘tri chi’ a ystyrir yn safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y plant Blwyddyn 8 hyn yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy, a bydd angen iddynt ymdrin â Chymraeg ysgrifenedig safonol. Os nad ydynt yn cael enghreifftiau o Gymraeg safonol, sut ar wyneb y ddaear y byddant yn gallu defnyddio Cymraeg safonol?  Rwy’n cymryd bod eu hathrawon Cymraeg druain wrthi’n ceisio eu dysgu nhw am y treigladau a ddefnyddir ar ôl rhifau a’u hannog i’w defnyddio yn ysgrifenedig.
 
A cham gwag yw osgoi ffurfiau fel hyn pan fo plant yn fach iawn – dyna’r union adeg pan fydd eu dealltwriaeth am iaith yn carlamu ac fe allent ddysgu adeiladwaith yr iaith yn hollol naturiol a didrafferth - dim ots pa mor ‘astrus’ y gwelwn ni’r ‘rheol’. ‘Tri thractor’, ‘tri physgodyn’ – byddai’r plant lleiaf oll yn eu deall nhw’n hollol ddidrafferth. Efallai fy mod i’n hollol anghywir ond onid yw hi’n fwy dryslyd i blant pan fydd eu hathrawon yn dweud un peth iddynt a’r hyn maent yn ei weld mewn llyfrau yn gwrth-ddweud hynny?
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 17 Mehefin 2015 10:32
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Three dogs
 
Diolch bawb.
 
O’n i’n amau braidd – a dilyn yr egwyddor ‘dau gi bach’.
 
Plant blwyddyn 8 sydd dan sylw. Does dim angen cynnwys y ‘tri’ bob tro felly dwi’n mynd i awgrymu ‘cŵn’ yn y cyswllt hwnnw, ac yna ‘tri o gŵn’ i weld beth fydd barn y cwsmer.
 
Diolch yn fawr eto
 
Rhian
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 17 June 2015 10:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Three dogs
 

Oes, sori! Dydi ansoddair ar ôl yr enw ddim yn effeithio ar yr angen i dreiglo.

Yn bersonol dwi o blaid sgrapio'r treiglad llaes a dilyn yr iaith lafar - "tri ci" mae bron bawb yn ei ddeud yn naturiol, dwi'n siwr.

Hefyd byddai hynny'n osgoi'r amwysedd rhwng "eich tri chi" (your three dogs) ac "eich tri chi" (your three).

Geraint

On 17/06/2015 10:06, Rhian Huws wrote:
Bore da
 
Cwestiwn gwirion o bosibl...
 
Rwy’n cyfieithu rhywbeth i blant ar y thema uchod. Wrth gwrs, ‘tri chi’ sy’n ramadegol gywir ond rwy’n ceisio meddwl am ffyrdd o osogi’r treiglad llaes os oes modd. Os defnyddia’i ‘tri ci bach’ a oes angen treiglad llaes o hyd – ‘tri chi bach’?
 
Methu gweld dim yn y llyfrau gramadeg sydd gen i.
 
Diolch ymlaen llaw
 
Rhian