Print

Print


Yn ôl PWT "…dim ond mewn arddulliau ffurfiol y tueddir i gael y gwahaniaethau triegladol uchod." (sef treiglo ar ôl "tri" a "chwech") felly gallwn ddisgwyl gwahaniaeth barn ar y mater.

Siân

On 2015 Meh 17, at 1:06 PM, Eluned Mai wrote:

Debyg ei fod o'n dibynnu ar yr athro, Sian.  Os dyna oeddet ti'n glywed, dyna oedd yn naturiol i ti.  Ond fenga'n byd mae plant yn clywed iaith gywir, mwya'n byd y bydd yr iaith honno'n datblygu'n iaith naturiol y tu mewn iddyn nhw.  Mae plant yn amsugno iaith, hyd yn oed yn y groth.

2015-06-17 12:18 GMT+01:00 Sian Eleri Roberts <[log in to unmask]>:
Wyddwn i ddim tan i mi gyrraedd y Brifysgol bod ‘na dreiglad llaes ar ôl tri.  Roeddwn i’n dod o deulu Cymraeg, yn byw mewn ardal Gymraeg ac wedi astudio Cymraeg i Lefel A mewn ysgol Gymreigaidd.

Dwi’n cofio synnu o glywed yr Athro Geraint Gruffydd yn dweud “tri thŷ” - chlywais i erioed mo’r peth cyn hynny!

Efallai ei bod yn bryd derbyn bod 3 + treiglad llaes wedi colli’r dydd

Siân

On 17 Meh 2015, at 11:57, Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]> wrote:

Dyw i wir ddim yn gweld pam y byddai rhywun am osgoi’r treiglad llaes i blant. Oes gan rywun unrhyw dystiolaeth gadarn bod plant yn cael ‘tri chi’ yn anodd ei ddeall?
 
Beth bynnag fo ein hidiolect unigol – a derbyn bod llawer yn dweud ‘tri ci’ (er fyddwn i ddim yn derbyn ‘bron pawb’ Geraint yn ddi-gwestiwn) – ‘tri chi’ a ystyrir yn safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y plant Blwyddyn 8 hyn yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy, a bydd angen iddynt ymdrin â Chymraeg ysgrifenedig safonol. Os nad ydynt yn cael enghreifftiau o Gymraeg safonol, sut ar wyneb y ddaear y byddant yn gallu defnyddio Cymraeg safonol?  Rwy’n cymryd bod eu hathrawon Cymraeg druain wrthi’n ceisio eu dysgu nhw am y treigladau a ddefnyddir ar ôl rhifau a’u hannog i’w defnyddio yn ysgrifenedig.
 
A cham gwag yw osgoi ffurfiau fel hyn pan fo plant yn fach iawn – dyna’r union adeg pan fydd eu dealltwriaeth am iaith yn carlamu ac fe allent ddysgu adeiladwaith yr iaith yn hollol naturiol a didrafferth - dim ots pa mor ‘astrus’ y gwelwn ni’r ‘rheol’. ‘Tri thractor’, ‘tri physgodyn’ – byddai’r plant lleiaf oll yn eu deall nhw’n hollol ddidrafferth. Efallai fy mod i’n hollol anghywir ond onid yw hi’n fwy dryslyd i blant pan fydd eu hathrawon yn dweud un peth iddynt a’r hyn maent yn ei weld mewn llyfrau yn gwrth-ddweud hynny?
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 17 Mehefin 2015 10:32
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Three dogs
 
Diolch bawb.
 
O’n i’n amau braidd – a dilyn yr egwyddor ‘dau gi bach’.
 
Plant blwyddyn 8 sydd dan sylw. Does dim angen cynnwys y ‘tri’ bob tro felly dwi’n mynd i awgrymu ‘cŵn’ yn y cyswllt hwnnw, ac yna ‘tri o gŵn’ i weld beth fydd barn y cwsmer.
 
Diolch yn fawr eto
 
Rhian
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 17 June 2015 10:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Three dogs
 

Oes, sori! Dydi ansoddair ar ôl yr enw ddim yn effeithio ar yr angen i dreiglo.

Yn bersonol dwi o blaid sgrapio'r treiglad llaes a dilyn yr iaith lafar - "tri ci" mae bron bawb yn ei ddeud yn naturiol, dwi'n siwr.

Hefyd byddai hynny'n osgoi'r amwysedd rhwng "eich tri chi" (your three dogs) ac "eich tri chi" (your three).

Geraint

On 17/06/2015 10:06, Rhian Huws wrote:
Bore da
 
Cwestiwn gwirion o bosibl...
 
Rwy’n cyfieithu rhywbeth i blant ar y thema uchod. Wrth gwrs, ‘tri chi’ sy’n ramadegol gywir ond rwy’n ceisio meddwl am ffyrdd o osogi’r treiglad llaes os oes modd. Os defnyddia’i ‘tri ci bach’ a oes angen treiglad llaes o hyd – ‘tri chi bach’? 
 
Methu gweld dim yn y llyfrau gramadeg sydd gen i.
 
Diolch ymlaen llaw
 
Rhian