Yn ôl PWT "…dim ond mewn arddulliau ffurfiol y tueddir i gael y gwahaniaethau triegladol uchod." (sef treiglo ar ôl "tri" a "chwech") felly gallwn ddisgwyl gwahaniaeth barn ar y mater. Siân On 2015 Meh 17, at 1:06 PM, Eluned Mai wrote: > Debyg ei fod o'n dibynnu ar yr athro, Sian. Os dyna oeddet ti'n glywed, dyna oedd yn naturiol i ti. Ond fenga'n byd mae plant yn clywed iaith gywir, mwya'n byd y bydd yr iaith honno'n datblygu'n iaith naturiol y tu mewn iddyn nhw. Mae plant yn amsugno iaith, hyd yn oed yn y groth. > > 2015-06-17 12:18 GMT+01:00 Sian Eleri Roberts <[log in to unmask]>: > Wyddwn i ddim tan i mi gyrraedd y Brifysgol bod ‘na dreiglad llaes ar ôl tri. Roeddwn i’n dod o deulu Cymraeg, yn byw mewn ardal Gymraeg ac wedi astudio Cymraeg i Lefel A mewn ysgol Gymreigaidd. > > Dwi’n cofio synnu o glywed yr Athro Geraint Gruffydd yn dweud “tri thŷ” - chlywais i erioed mo’r peth cyn hynny! > > Efallai ei bod yn bryd derbyn bod 3 + treiglad llaes wedi colli’r dydd > > Siân > >> On 17 Meh 2015, at 11:57, Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]> wrote: >> >> Dyw i wir ddim yn gweld pam y byddai rhywun am osgoi’r treiglad llaes i blant. Oes gan rywun unrhyw dystiolaeth gadarn bod plant yn cael ‘tri chi’ yn anodd ei ddeall? >> >> Beth bynnag fo ein hidiolect unigol – a derbyn bod llawer yn dweud ‘tri ci’ (er fyddwn i ddim yn derbyn ‘bron pawb’ Geraint yn ddi-gwestiwn) – ‘tri chi’ a ystyrir yn safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y plant Blwyddyn 8 hyn yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy, a bydd angen iddynt ymdrin â Chymraeg ysgrifenedig safonol. Os nad ydynt yn cael enghreifftiau o Gymraeg safonol, sut ar wyneb y ddaear y byddant yn gallu defnyddio Cymraeg safonol? Rwy’n cymryd bod eu hathrawon Cymraeg druain wrthi’n ceisio eu dysgu nhw am y treigladau a ddefnyddir ar ôl rhifau a’u hannog i’w defnyddio yn ysgrifenedig. >> >> A cham gwag yw osgoi ffurfiau fel hyn pan fo plant yn fach iawn – dyna’r union adeg pan fydd eu dealltwriaeth am iaith yn carlamu ac fe allent ddysgu adeiladwaith yr iaith yn hollol naturiol a didrafferth - dim ots pa mor ‘astrus’ y gwelwn ni’r ‘rheol’. ‘Tri thractor’, ‘tri physgodyn’ – byddai’r plant lleiaf oll yn eu deall nhw’n hollol ddidrafferth. Efallai fy mod i’n hollol anghywir ond onid yw hi’n fwy dryslyd i blant pan fydd eu hathrawon yn dweud un peth iddynt a’r hyn maent yn ei weld mewn llyfrau yn gwrth-ddweud hynny? >> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws >> Sent: 17 Mehefin 2015 10:32 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: Three dogs >> >> Diolch bawb. >> >> O’n i’n amau braidd – a dilyn yr egwyddor ‘dau gi bach’. >> >> Plant blwyddyn 8 sydd dan sylw. Does dim angen cynnwys y ‘tri’ bob tro felly dwi’n mynd i awgrymu ‘cŵn’ yn y cyswllt hwnnw, ac yna ‘tri o gŵn’ i weld beth fydd barn y cwsmer. >> >> Diolch yn fawr eto >> >> Rhian >> >> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen >> Sent: 17 June 2015 10:21 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: Three dogs >> >> Oes, sori! Dydi ansoddair ar ôl yr enw ddim yn effeithio ar yr angen i dreiglo. >> >> Yn bersonol dwi o blaid sgrapio'r treiglad llaes a dilyn yr iaith lafar - "tri ci" mae bron bawb yn ei ddeud yn naturiol, dwi'n siwr. >> >> Hefyd byddai hynny'n osgoi'r amwysedd rhwng "eich tri chi" (your three dogs) ac "eich tri chi" (your three). >> >> Geraint >> >> On 17/06/2015 10:06, Rhian Huws wrote: >> Bore da >> >> Cwestiwn gwirion o bosibl... >> >> Rwy’n cyfieithu rhywbeth i blant ar y thema uchod. Wrth gwrs, ‘tri chi’ sy’n ramadegol gywir ond rwy’n ceisio meddwl am ffyrdd o osogi’r treiglad llaes os oes modd. Os defnyddia’i ‘tri ci bach’ a oes angen treiglad llaes o hyd – ‘tri chi bach’? >> >> Methu gweld dim yn y llyfrau gramadeg sydd gen i. >> >> Diolch ymlaen llaw >> >> Rhian >> >> >> > >