Print

Print


Gofynnais i i ddyn canol oed neithiwr hefyd, gan geisio ei roi mewn ffordd naturiol fel nad oedd cywirdeb iaith ar ei feddwl:

Os yw dyn efo pedwar ci a chath ac yn colli un o bob anifail, be sydd ganddo'n weddill?

'Tri ci' oedd yr ateb, yn anffodus.

Aled
________________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen [[log in to unmask]]
Sent: 19 June 2015 10:01
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Three dogs

Dyna oedd fy ymateb i - mae gofyn i rywun ei ddweud yn wahanol iawn i
sgwrs naturiol.

On 19/06/2015 09:43, Neil Shadrach wrote:
> Holais innau rhywun 16 oed neithiwr - "tri chi" oedd yr ateb. Wrth
> gwrs mae hynny'n wahanol i sgwrs naturiol.
>
> Ar 19 Mehefin 2015 am 09:36 , ysgrifennodd Post < [log in to unmask] > :
>> Mae gen i fab ym mlwyddyn 7. Neithiwr, gofynnais iddo gyfieithu “three dogs”
>> a’r ateb oedd “tri chi”.
>>
>>
>>
>> Bu’n dysgu am dreiglo ar ôl ‘tri’ a ‘chwech’ yn yr ysgol eleni – a dim sôn o
>> osgoi’r treigliad llaes.
>>
>>
>>
>>
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
>> Sent: 18 June 2015 16:53
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Three dogs
>>
>>
>>
>> Wnes i flogio am y treiglad tsh > j slawer dydd:
>>
>>
>>
>> https://siantirdu.wordpress.com/2010/04/27/oes-na-jans-am-jainis/
>>
>>
>>
>>
>>
>> On 2015 Meh 18, at 3:06 PM, megan tomos wrote:
>>
>>
>>
>> Ia a phob treiglad newydd fel fy nhips/ fy nhiocled  a dy jips!
>>
>> ----Original message----
>>  From : [log in to unmask]
>> Date : 18/06/2015 - 14:05 (GMTDT)
>> To : [log in to unmask]
>> Subject : ATB/RE: ATB/RE: Three dogs
>>
>>
>> Hir oes i’r treigliad llaes
>>
>>
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of
>> Vaughan-Thomas, Paul
>> Sent: 18 Mehefin 2015 14:03
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: ATB/RE: Three dogs
>>
>>
>>
>> Clywch, clywch Matthew! Cytuno’n llwyr. Mae plant Blwyddyn 8 yn eu
>> harddegau, nid yn 4 oed. Pryd yn union y byddan nhw’n barod i ymdopi ag
>> erchyllterau’r treigladau tybed?
>>
>>
>>
>>
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb
>> [auc]
>> Sent: 17 June 2015 11:57
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: ATB/RE: Three dogs
>>
>>
>>
>> Dyw i wir ddim yn gweld pam y byddai rhywun am osgoi’r treiglad llaes i
>> blant. Oes gan rywun unrhyw dystiolaeth gadarn bod plant yn cael ‘tri chi’
>> yn anodd ei ddeall?
>>
>>
>>
>> Beth bynnag fo ein hidiolect unigol – a derbyn bod llawer yn dweud ‘tri ci’
>> (er fyddwn i ddim yn derbyn ‘bron pawb’ Geraint yn ddi-gwestiwn) – ‘tri chi’
>> a ystyrir yn safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y plant Blwyddyn 8
>> hyn yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy, a bydd angen
>> iddynt ymdrin â Chymraeg ysgrifenedig safonol. Os nad ydynt yn cael
>> enghreifftiau o Gymraeg safonol, sut ar wyneb y ddaear y byddant yn gallu
>> defnyddio Cymraeg safonol?  Rwy’n cymryd bod eu hathrawon Cymraeg druain
>> wrthi’n ceisio eu dysgu nhw am y treigladau a ddefnyddir ar ôl rhifau a’u
>> hannog i’w defnyddio yn ysgrifenedig.
>>
>>
>>
>> A cham gwag yw osgoi ffurfiau fel hyn pan fo plant yn fach iawn – dyna’r
>> union adeg pan fydd eu dealltwriaeth am iaith yn carlamu ac fe allent ddysgu
>> adeiladwaith yr iaith yn hollol naturiol a didrafferth - dim ots pa mor
>> ‘astrus’ y gwelwn ni’r ‘rheol’. ‘Tri thractor’, ‘tri physgodyn’ – byddai’r
>> plant lleiaf oll yn eu deall nhw’n hollol ddidrafferth. Efallai fy mod i’n
>> hollol anghywir ond onid yw hi’n fwy dryslyd i blant pan fydd eu hathrawon
>> yn dweud un peth iddynt a’r hyn maent yn ei weld mewn llyfrau yn
>> gwrth-ddweud hynny?
>>
>>
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws
>> Sent: 17 Mehefin 2015 10:32
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Three dogs
>>
>>
>>
>> Diolch bawb.
>>
>>
>>
>> O’n i’n amau braidd – a dilyn yr egwyddor ‘dau gi bach’.
>>
>>
>>
>> Plant blwyddyn 8 sydd dan sylw. Does dim angen cynnwys y ‘tri’ bob tro felly
>> dwi’n mynd i awgrymu ‘cŵn’ yn y cyswllt hwnnw, ac yna ‘tri o gŵn’ i weld
>> beth fydd barn y cwsmer.
>>
>>
>>
>> Diolch yn fawr eto
>>
>>
>>
>> Rhian
>>
>>
>>
>>
>>
>> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
>> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
>> Sent: 17 June 2015 10:21
>> To: [log in to unmask]
>> Subject: Re: Three dogs
>>
>>
>>
>> Oes, sori! Dydi ansoddair ar ôl yr enw ddim yn effeithio ar yr angen i
>> dreiglo.
>>
>> Yn bersonol dwi o blaid sgrapio'r treiglad llaes a dilyn yr iaith lafar -
>> "tri ci" mae bron bawb yn ei ddeud yn naturiol, dwi'n siwr.
>>
>> Hefyd byddai hynny'n osgoi'r amwysedd rhwng "eich tri chi" (your three dogs)
>> ac "eich tri chi" (your three).
>>
>> Geraint
>>
>> On 17/06/2015 10:06, Rhian Huws wrote:
>>
>> Bore da
>>
>>
>>
>> Cwestiwn gwirion o bosibl...
>>
>>
>>
>> Rwy’n cyfieithu rhywbeth i blant ar y thema uchod. Wrth gwrs, ‘tri chi’ sy’n
>> ramadegol gywir ond rwy’n ceisio meddwl am ffyrdd o osogi’r treiglad llaes
>> os oes modd. Os defnyddia’i ‘tri ci bach’ a oes angen treiglad llaes o hyd –
>> ‘tri chi bach’?
>>
>>
>>
>> Methu gweld dim yn y llyfrau gramadeg sydd gen i.
>>
>>
>>
>> Diolch ymlaen llaw
>>
>>
>>
>> Rhian
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>> ******************************************************************
>> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended
>> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed.
>> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator
>> on the following address:
>> [log in to unmask]
>>
>> All communications sent to or from the Council may be subject to recording
>> and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>>
>> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol
>> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os
>> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r
>> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol:
>> [log in to unmask]
>>
>> Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi
>> a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol
>> *******************************************************************
>>
>> --
>>
>> Ymwadiad:
>>
>> Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a
>> roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a
>> all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen
>> i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.
>>
>> Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au)
>> y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges
>> hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon
>> iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi
>> yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi
>> nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio,
>> dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.
>>
>> O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir
>> datgelu cynnwys y negest ebost hon.
>>
>> Disclaimer:
>>
>> While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information
>> and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses
>> arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to
>> obtain your own professional advice.
>>
>> The information in this email and any attachments is intended solely for the
>> attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended
>> recipient, or person responsible for delivering this information to the
>> intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the
>> intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and
>> must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of
>> it.
>>
>> Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000
>> the contents of this email may be disclosed.
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>>
>>

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for
the use of the individual or organisation to whom it is addressed.  If you are not
the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination,
forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to
contact the sender and delete the material from any computer.  Opinions, conclusions
and other information in this message that do not relate to the official business of
Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. ..

Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i
bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r
derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad,
gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob
cyfrifiadur os  gwelwch yn dda.  Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad
yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *