Clywch, clywch Matthew! Cytuno’n llwyr. Mae plant Blwyddyn 8 yn eu harddegau, nid yn 4 oed. Pryd yn union y byddan nhw’n barod i ymdopi ag erchyllterau’r treigladau tybed? From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb [auc] Sent: 17 June 2015 11:57 To: [log in to unmask] Subject: ATB/RE: Three dogs Dyw i wir ddim yn gweld pam y byddai rhywun am osgoi’r treiglad llaes i blant. Oes gan rywun unrhyw dystiolaeth gadarn bod plant yn cael ‘tri chi’ yn anodd ei ddeall? Beth bynnag fo ein hidiolect unigol – a derbyn bod llawer yn dweud ‘tri ci’ (er fyddwn i ddim yn derbyn ‘bron pawb’ Geraint yn ddi-gwestiwn) – ‘tri chi’ a ystyrir yn safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y plant Blwyddyn 8 hyn yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy, a bydd angen iddynt ymdrin â Chymraeg ysgrifenedig safonol. Os nad ydynt yn cael enghreifftiau o Gymraeg safonol, sut ar wyneb y ddaear y byddant yn gallu defnyddio Cymraeg safonol? Rwy’n cymryd bod eu hathrawon Cymraeg druain wrthi’n ceisio eu dysgu nhw am y treigladau a ddefnyddir ar ôl rhifau a’u hannog i’w defnyddio yn ysgrifenedig. A cham gwag yw osgoi ffurfiau fel hyn pan fo plant yn fach iawn – dyna’r union adeg pan fydd eu dealltwriaeth am iaith yn carlamu ac fe allent ddysgu adeiladwaith yr iaith yn hollol naturiol a didrafferth - dim ots pa mor ‘astrus’ y gwelwn ni’r ‘rheol’. ‘Tri thractor’, ‘tri physgodyn’ – byddai’r plant lleiaf oll yn eu deall nhw’n hollol ddidrafferth. Efallai fy mod i’n hollol anghywir ond onid yw hi’n fwy dryslyd i blant pan fydd eu hathrawon yn dweud un peth iddynt a’r hyn maent yn ei weld mewn llyfrau yn gwrth-ddweud hynny? From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws Sent: 17 Mehefin 2015 10:32 To: [log in to unmask] Subject: Re: Three dogs Diolch bawb. O’n i’n amau braidd – a dilyn yr egwyddor ‘dau gi bach’. Plant blwyddyn 8 sydd dan sylw. Does dim angen cynnwys y ‘tri’ bob tro felly dwi’n mynd i awgrymu ‘cŵn’ yn y cyswllt hwnnw, ac yna ‘tri o gŵn’ i weld beth fydd barn y cwsmer. Diolch yn fawr eto Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 17 June 2015 10:21 To: [log in to unmask] Subject: Re: Three dogs Oes, sori! Dydi ansoddair ar ôl yr enw ddim yn effeithio ar yr angen i dreiglo. Yn bersonol dwi o blaid sgrapio'r treiglad llaes a dilyn yr iaith lafar - "tri ci" mae bron bawb yn ei ddeud yn naturiol, dwi'n siwr. Hefyd byddai hynny'n osgoi'r amwysedd rhwng "eich tri chi" (your three dogs) ac "eich tri chi" (your three). Geraint On 17/06/2015 10:06, Rhian Huws wrote: Bore da Cwestiwn gwirion o bosibl... Rwy’n cyfieithu rhywbeth i blant ar y thema uchod. Wrth gwrs, ‘tri chi’ sy’n ramadegol gywir ond rwy’n ceisio meddwl am ffyrdd o osogi’r treiglad llaes os oes modd. Os defnyddia’i ‘tri ci bach’ a oes angen treiglad llaes o hyd – ‘tri chi bach’? Methu gweld dim yn y llyfrau gramadeg sydd gen i. Diolch ymlaen llaw Rhian ****************************************************************** This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. If you have received this e-mail in error, please notify the administrator on the following address: [log in to unmask] All communications sent to or from the Council may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: [log in to unmask] Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol *******************************************************************