Print

Print


Mae Catrin yn mynd tua'r un trywydd a fy meddwl i.


O'n i am gynnig 'tair gast'. Mae 'ci a dwy gast' neu 'gast a dau gi' hefyd yn tri chi. Ond yn bendant nid 'tri ci'.



Aled




Cyfieithydd / Clerc i'r Llywodraethwyr
Ysgol Morgan Llwyd
01978 315064

________________________________
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [[log in to unmask]] On Behalf Of Cyfri Dot [[log in to unmask]]
Sent: 17 June 2015 15:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Three dogs

Mi fasa tair cath lot haws!!



On 17 Meh 2015, at 15:56, Rhian Huws <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> wrote:

‘Mine is not to reason why....’ chwedl Tennyson.

Tydw i ddim yn arbenigwraig ar ddealltwriaeth ieithyddol plant nac ychwaith yn arbenigwraig addysg ac mae’n rhaid i mi blygu i farn y rhai sydd YN gwybod (neu’n honni eu bod nhw’n gwybod) o ran y prosiect arbennig yma. Y pwnc, gyda llaw, yw mathemateg, felly mi fedrai ddeall i ryw raddau eu bod nhw eisiau cadw pethau mor syml â phosibl ond ble mae’r tynnu’r llinell yw’r cwestiwn ynde?

Gyda llaw, dw i ddim yn meddwl i mi erioed ddweud nad oeddan nhw DDIM eisiau cynnwys y treiglad os mai dyna’r rheol ramadegol, dim ond eu bod nhw eisiau ceisio ffendio ffordd rownd y peth. Ac yn wahanol i ‘tri thractor’ neu ‘chwe cheiniog’,  dwi’n meddwl y gallai ‘tri chi’ fod yn ddryslyd am yr union reswm a nodwyd gan Geraint.

Beth bynnag, dwi’n credu y byddai peidio â threiglo yn annoeth felly dwi wedi penderfynu defnyddio ‘cŵn’ lle bo modd, a ‘tri o gŵn’ pan fo rhaid.

Diolch i bawb eich sylwadau

Rhian


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of David Bullock
Sent: 17 June 2015 13:22
To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Subject: Re: ATB/RE: Three dogs

Oes modd cael gwybod gan yr unigolyn neu'r unigolion cyfrifol yn adran addysg y Llywodraeth am y dystiolaeth sydd ganddyn nhw i ddangos bod plant ein hoes ni yn methu dirnad 'tri thractor' neu 'chwe cheiniog'? (Yn wahanol felly i blant bach y canrifoedd o'r blaen a lwyddodd i ymdopi rywsut).

Hefyd, oes modd cael gwybod pwy yw'r unigolyn neu'r unigolion sy'n disgwyl i deithi iaith newid fel hyn am eu bod nhw wedi deddfu? (Mae'n debyg bod ganddyn nhw gefndir cydnabyddedig ym maes ieithyddiaeth gymhwysol neu bwnc tebyg a phrofiad blynyddoedd lawer i ategu'r fath ddyfarniad ysgubol.)

Dim ond gofyn...


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 17 Mehefin 2015 12:08
To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Subject: Re: ATB/RE: Three dogs

Cytuno gyda ti Matthew i raddai helseth.

Dilyn cyfarwyddyd y sanhedrin yn adran addysg y llywodraeth ydwi.

Doedden nhw ddim isho 'chwe chacen' chwaith....

Sent from my iPhone

On 17 Jun 2015, at 11:57, Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> wrote:
Dyw i wir ddim yn gweld pam y byddai rhywun am osgoi’r treiglad llaes i blant. Oes gan rywun unrhyw dystiolaeth gadarn bod plant yn cael ‘tri chi’ yn anodd ei ddeall?

Beth bynnag fo ein hidiolect unigol – a derbyn bod llawer yn dweud ‘tri ci’ (er fyddwn i ddim yn derbyn ‘bron pawb’ Geraint yn ddi-gwestiwn) – ‘tri chi’ a ystyrir yn safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y plant Blwyddyn 8 hyn yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy, a bydd angen iddynt ymdrin â Chymraeg ysgrifenedig safonol. Os nad ydynt yn cael enghreifftiau o Gymraeg safonol, sut ar wyneb y ddaear y byddant yn gallu defnyddio Cymraeg safonol?  Rwy’n cymryd bod eu hathrawon Cymraeg druain wrthi’n ceisio eu dysgu nhw am y treigladau a ddefnyddir ar ôl rhifau a’u hannog i’w defnyddio yn ysgrifenedig.

A cham gwag yw osgoi ffurfiau fel hyn pan fo plant yn fach iawn – dyna’r union adeg pan fydd eu dealltwriaeth am iaith yn carlamu ac fe allent ddysgu adeiladwaith yr iaith yn hollol naturiol a didrafferth - dim ots pa mor ‘astrus’ y gwelwn ni’r ‘rheol’. ‘Tri thractor’, ‘tri physgodyn’ – byddai’r plant lleiaf oll yn eu deall nhw’n hollol ddidrafferth. Efallai fy mod i’n hollol anghywir ond onid yw hi’n fwy dryslyd i blant pan fydd eu hathrawon yn dweud un peth iddynt a’r hyn maent yn ei weld mewn llyfrau yn gwrth-ddweud hynny?

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 17 Mehefin 2015 10:32
To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Subject: Re: Three dogs

Diolch bawb.

O’n i’n amau braidd – a dilyn yr egwyddor ‘dau gi bach’.

Plant blwyddyn 8 sydd dan sylw. Does dim angen cynnwys y ‘tri’ bob tro felly dwi’n mynd i awgrymu ‘cŵn’ yn y cyswllt hwnnw, ac yna ‘tri o gŵn’ i weld beth fydd barn y cwsmer.

Diolch yn fawr eto

Rhian


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 17 June 2015 10:21
To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>
Subject: Re: Three dogs

Oes, sori! Dydi ansoddair ar ôl yr enw ddim yn effeithio ar yr angen i dreiglo.

Yn bersonol dwi o blaid sgrapio'r treiglad llaes a dilyn yr iaith lafar - "tri ci" mae bron bawb yn ei ddeud yn naturiol, dwi'n siwr.

Hefyd byddai hynny'n osgoi'r amwysedd rhwng "eich tri chi" (your three dogs) ac "eich tri chi" (your three).

Geraint
On 17/06/2015 10:06, Rhian Huws wrote:
Bore da

Cwestiwn gwirion o bosibl...

Rwy’n cyfieithu rhywbeth i blant ar y thema uchod. Wrth gwrs, ‘tri chi’ sy’n ramadegol gywir ond rwy’n ceisio meddwl am ffyrdd o osogi’r treiglad llaes os oes modd. Os defnyddia’i ‘tri ci bach’ a oes angen treiglad llaes o hyd – ‘tri chi bach’?

Methu gweld dim yn y llyfrau gramadeg sydd gen i.

Diolch ymlaen llaw

Rhian




________________________________
* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *

This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely for
the use of the individual or organisation to whom it is addressed. If you are not
the intended recipient and have received this e-mail in error, any use, dissemination,
forwarding, printing, or copying of it is strictly prohibited and you are requested to
contact the sender and delete the material from any computer. Opinions, conclusions
and other information in this message that do not relate to the official business of
Wrexham County Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it. ..

Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol ac fe'i
bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato. Os nad chi yw'r
derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad,
gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon ymlaen, ei hargraffu a'i
chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i hanfonodd a dileu'r deunydd o bob
cyfrifiadur os gwelwch yn dda. Dealler nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
yn rhoi na cyn cymeradwyo barn, casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad
yw'n ymwneud a'i fusnes swyddogol.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *