Dyna oedd fy ymateb i - mae gofyn i rywun ei ddweud yn wahanol iawn i sgwrs naturiol. On 19/06/2015 09:43, Neil Shadrach wrote: > Holais innau rhywun 16 oed neithiwr - "tri chi" oedd yr ateb. Wrth > gwrs mae hynny'n wahanol i sgwrs naturiol. > > Ar 19 Mehefin 2015 am 09:36 , ysgrifennodd Post < [log in to unmask] > : >> Mae gen i fab ym mlwyddyn 7. Neithiwr, gofynnais iddo gyfieithu “three dogs” >> a’r ateb oedd “tri chi”. >> >> >> >> Bu’n dysgu am dreiglo ar ôl ‘tri’ a ‘chwech’ yn yr ysgol eleni – a dim sôn o >> osgoi’r treigliad llaes. >> >> >> >> >> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts >> Sent: 18 June 2015 16:53 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Three dogs >> >> >> >> Wnes i flogio am y treiglad tsh > j slawer dydd: >> >> >> >> https://siantirdu.wordpress.com/2010/04/27/oes-na-jans-am-jainis/ >> >> >> >> >> >> On 2015 Meh 18, at 3:06 PM, megan tomos wrote: >> >> >> >> Ia a phob treiglad newydd fel fy nhips/ fy nhiocled a dy jips! >> >> ----Original message---- >> From : [log in to unmask] >> Date : 18/06/2015 - 14:05 (GMTDT) >> To : [log in to unmask] >> Subject : ATB/RE: ATB/RE: Three dogs >> >> >> Hir oes i’r treigliad llaes >> >> >> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of >> Vaughan-Thomas, Paul >> Sent: 18 Mehefin 2015 14:03 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: ATB/RE: Three dogs >> >> >> >> Clywch, clywch Matthew! Cytuno’n llwyr. Mae plant Blwyddyn 8 yn eu >> harddegau, nid yn 4 oed. Pryd yn union y byddan nhw’n barod i ymdopi ag >> erchyllterau’r treigladau tybed? >> >> >> >> >> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Matthew Clubb >> [auc] >> Sent: 17 June 2015 11:57 >> To: [log in to unmask] >> Subject: ATB/RE: Three dogs >> >> >> >> Dyw i wir ddim yn gweld pam y byddai rhywun am osgoi’r treiglad llaes i >> blant. Oes gan rywun unrhyw dystiolaeth gadarn bod plant yn cael ‘tri chi’ >> yn anodd ei ddeall? >> >> >> >> Beth bynnag fo ein hidiolect unigol – a derbyn bod llawer yn dweud ‘tri ci’ >> (er fyddwn i ddim yn derbyn ‘bron pawb’ Geraint yn ddi-gwestiwn) – ‘tri chi’ >> a ystyrir yn safonol yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd y plant Blwyddyn 8 >> hyn yn dechrau ar eu cyrsiau TGAU ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy, a bydd angen >> iddynt ymdrin â Chymraeg ysgrifenedig safonol. Os nad ydynt yn cael >> enghreifftiau o Gymraeg safonol, sut ar wyneb y ddaear y byddant yn gallu >> defnyddio Cymraeg safonol? Rwy’n cymryd bod eu hathrawon Cymraeg druain >> wrthi’n ceisio eu dysgu nhw am y treigladau a ddefnyddir ar ôl rhifau a’u >> hannog i’w defnyddio yn ysgrifenedig. >> >> >> >> A cham gwag yw osgoi ffurfiau fel hyn pan fo plant yn fach iawn – dyna’r >> union adeg pan fydd eu dealltwriaeth am iaith yn carlamu ac fe allent ddysgu >> adeiladwaith yr iaith yn hollol naturiol a didrafferth - dim ots pa mor >> ‘astrus’ y gwelwn ni’r ‘rheol’. ‘Tri thractor’, ‘tri physgodyn’ – byddai’r >> plant lleiaf oll yn eu deall nhw’n hollol ddidrafferth. Efallai fy mod i’n >> hollol anghywir ond onid yw hi’n fwy dryslyd i blant pan fydd eu hathrawon >> yn dweud un peth iddynt a’r hyn maent yn ei weld mewn llyfrau yn >> gwrth-ddweud hynny? >> >> >> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws >> Sent: 17 Mehefin 2015 10:32 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: Three dogs >> >> >> >> Diolch bawb. >> >> >> >> O’n i’n amau braidd – a dilyn yr egwyddor ‘dau gi bach’. >> >> >> >> Plant blwyddyn 8 sydd dan sylw. Does dim angen cynnwys y ‘tri’ bob tro felly >> dwi’n mynd i awgrymu ‘cŵn’ yn y cyswllt hwnnw, ac yna ‘tri o gŵn’ i weld >> beth fydd barn y cwsmer. >> >> >> >> Diolch yn fawr eto >> >> >> >> Rhian >> >> >> >> >> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen >> Sent: 17 June 2015 10:21 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: Three dogs >> >> >> >> Oes, sori! Dydi ansoddair ar ôl yr enw ddim yn effeithio ar yr angen i >> dreiglo. >> >> Yn bersonol dwi o blaid sgrapio'r treiglad llaes a dilyn yr iaith lafar - >> "tri ci" mae bron bawb yn ei ddeud yn naturiol, dwi'n siwr. >> >> Hefyd byddai hynny'n osgoi'r amwysedd rhwng "eich tri chi" (your three dogs) >> ac "eich tri chi" (your three). >> >> Geraint >> >> On 17/06/2015 10:06, Rhian Huws wrote: >> >> Bore da >> >> >> >> Cwestiwn gwirion o bosibl... >> >> >> >> Rwy’n cyfieithu rhywbeth i blant ar y thema uchod. Wrth gwrs, ‘tri chi’ sy’n >> ramadegol gywir ond rwy’n ceisio meddwl am ffyrdd o osogi’r treiglad llaes >> os oes modd. Os defnyddia’i ‘tri ci bach’ a oes angen treiglad llaes o hyd – >> ‘tri chi bach’? >> >> >> >> Methu gweld dim yn y llyfrau gramadeg sydd gen i. >> >> >> >> Diolch ymlaen llaw >> >> >> >> Rhian >> >> >> >> >> >> >> >> >> ****************************************************************** >> This e-mail and any files transmitted with it are confidential and intended >> solely for the use of the individual or entity to whom they are addressed. >> If you have received this e-mail in error, please notify the administrator >> on the following address: >> [log in to unmask] >> >> All communications sent to or from the Council may be subject to recording >> and/or monitoring in accordance with relevant legislation >> >> Mae'r e-bost hwn ac unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef yn gyfrinachol >> ac at ddefnydd yr unigolyn neu'r corff y cyfeiriwyd hwy atynt yn unig. Os >> ydych wedi derbyn yr e-bost hwn drwy gamgymeriad, dylech hysbysu'r >> gweinyddydd yn y cyfeiriad canlynol: >> [log in to unmask] >> >> Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir at y Cyngor neu ganddo yn destun cofnodi >> a/neu fonitro yn unol Ã’r ddeddfwriaeth berthnasol >> ******************************************************************* >> >> -- >> >> Ymwadiad: >> >> Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a >> roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a >> all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen >> i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun. >> >> Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) >> y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges >> hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon >> iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi >> yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi >> nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, >> dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni. >> >> O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir >> datgelu cynnwys y negest ebost hon. >> >> Disclaimer: >> >> While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information >> and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses >> arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to >> obtain your own professional advice. >> >> The information in this email and any attachments is intended solely for the >> attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended >> recipient, or person responsible for delivering this information to the >> intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the >> intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and >> must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of >> it. >> >> Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 >> the contents of this email may be disclosed. >> >> >> >> >> >> >> >>