[log in to unmask]" type="cite"> I grwydro ychydig: darllenais erthygl gyfan ynghylch cwn defaid yn Y Cymro unwaith, gan wladwr enwog nad enwa i mohono, ac 'roedd yn amlwg nad oedd o erioed wedi sylweddoli mai "gast" yw'r prifair, yn hytrach nag "ast". Mae'r un peth yn digwydd weithiau, hyd yn oed mewn llyfrau plant, gyda'r geiriau megis "gwiwer" "gefell" ayb - mae pobl mor gyfarwydd a'r ffurf treigledig fel nad ydynt yn sylweddoli bod "g" yn y gair.
Ann
On 18/06/2015 10:11, Eurwyn Pierce Jones wrote:
Chlywais i neb erioed, ymhlith y gymuned ffermio yng nghefn gwlad (naddo'n wir), yn dweud y fath beth â 'dwy gast' !! 'Dwy ast' bob tro. 'Dau gi' ynghyd â 'thri chi' hefyd, a glywa i'n cael ei dweud yn gyson gan ffermwyr cyffredin - o hiliogaeth Gymraeg iaith gyntaf, o leiaf.