Print

Print


Mi o'n i dan yr argraff mai "efaill" oedd y gair unigol tan yn eitha 
diweddar. Mae "gefell" yn swnio'n ddiarth iawn i fi. Mae'n un od achos 
mai ffurf ddeuol ydi'r "lluosog" ac felly mae'n treiglo  - "yr 
efeilliaid". Ond wedyn pam nad ydi "y dwylo" yn treiglo?

Geraint

On 18/06/2015 14:47, Ann Corkett wrote:
> I grwydro ychydig: darllenais erthygl gyfan ynghylch cwn defaid yn Y 
> Cymro unwaith, gan wladwr enwog nad enwa i mohono, ac 'roedd yn amlwg 
> nad oedd o erioed wedi sylweddoli mai "gast" yw'r prifair, yn hytrach 
> nag "ast".  Mae'r un peth yn digwydd weithiau, hyd yn oed mewn llyfrau 
> plant, gyda'r geiriau megis "gwiwer" "gefell" ayb - mae pobl mor 
> gyfarwydd a'r ffurf treigledig fel nad ydynt yn sylweddoli bod "g" yn 
> y gair.
> Ann
>
> On 18/06/2015 10:11, Eurwyn Pierce Jones wrote:
>>
>> Chlywais i neb erioed, ymhlith y gymuned ffermio yng nghefn gwlad 
>> (naddo'n wir), yn dweud y fath beth â 'dwy gast' !!   'Dwy ast' bob 
>> tro.  'Dau gi' ynghyd â 'thri chi' hefyd, a glywa i'n cael ei dweud 
>> yn gyson gan ffermwyr cyffredin - o hiliogaeth Gymraeg iaith gyntaf, 
>> o leiaf.
>>
>