Print

Print


I grwydro ychydig: darllenais erthygl gyfan ynghylch cwn defaid yn Y 
Cymro unwaith, gan wladwr enwog nad enwa i mohono, ac 'roedd yn amlwg 
nad oedd o erioed wedi sylweddoli mai "gast" yw'r prifair, yn hytrach 
nag "ast".  Mae'r un peth yn digwydd weithiau, hyd yn oed mewn llyfrau 
plant, gyda'r geiriau megis "gwiwer" "gefell" ayb - mae pobl mor 
gyfarwydd a'r ffurf treigledig fel nad ydynt yn sylweddoli bod "g" yn y 
gair.
Ann

On 18/06/2015 10:11, Eurwyn Pierce Jones wrote:
>
> Chlywais i neb erioed, ymhlith y gymuned ffermio yng nghefn gwlad 
> (naddo'n wir), yn dweud y fath beth â 'dwy gast' !!   'Dwy ast' bob 
> tro.  'Dau gi' ynghyd â 'thri chi' hefyd, a glywa i'n cael ei dweud yn 
> gyson gan ffermwyr cyffredin - o hiliogaeth Gymraeg iaith gyntaf, o leiaf.
>