Pabïau Tŵr Llundain: Gwahodd Ceisiadau gan Leoliadau yng Nghymru
Mae lleoliadau o bob cwr o Gymru yn cael eu gwahodd a’u hannog i wneud cais am y cyfle i arddangos y pabïau enwog a oedd yn Nhŵr Llundain yn flaenorol. Crëwyd y pabïau i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Caiff dwy ran o’r gwaith gwreiddiol, Blood Swept Lands and Seas of Red, a ddenodd filiynau o ymwelwyr pan oedd i’w weld yn Nhŵr Llundain, eu harddangos mewn lleoliadau ledled y Deyrnas Unedig yn 2015 a 2016. Mae’r rhannau o’r enw ‘Wave’ a ‘Weeping
Window’ wedi cael eu cadw ar gyfer y genedl gan Ymmdiriedolaeth Backstage a Sefydliad Clore Duffield, sydd, yn eu tro, wedi’u rhoi fel rhodd i 14-18 NOW ac Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth.
Yn awr, caiff lleoliadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig eu hystyried ar gyfer arddangos y pabïau. Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC, yn annog lleoliadau yng Nghymru i gynnig am y cyfle.
Caiff y lleoliadau eu dewis gan ystyried sawl maen prawf, gan gynnwys lle priodol i arddangos y pabïau, y gallu i ganiatáu mynediad am ddim i’w gweld, a pherthnasedd y lleoliad i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ar y panel
a fydd yn dewis y lleoliadau bydd yr artist a greodd y gwaith, Paul Cummins, y dylunydd Tom Piper, Cyfarwyddwraig 14-18 NOW Jenny Waldman, y cyflwynydd teledu Ade Adepitan a Chyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth, Diane Lees. Bydd y panel
yn ymgynghori â Phalasau Brenhinol Hanesyddol a rhanddeiliaid eraill wrth wneud eu penderfyniad.
Y dyddiad cau ar gyfer arddangos y pabïau yn 2015 yw 10am, dydd Llun 22 Mehefin.
Y dyddiad cau ar gyfer arddangos y pabïau yn 2016 yw 10am, dydd Llun 3 Awst.
Bydd cyfle i fynegi diddordeb ar gyfer arddangos y pabïau yn 2017 a 2018 o ddechrau 2016 ymlaen.
---
Elizabeth Bennett
Is-adran Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd - Museums Archives and Libraries Wales Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth - Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cymru - Welsh Government
Rhodfa Padarn,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3UR.
Ffon/Tel: 0300 062 2101
Fax/Ffacs: 0300 062 2052