Pabïau Tŵr Llundain: Gwahodd Ceisiadau gan Leoliadau yng Nghymru Mae lleoliadau o bob cwr o Gymru yn cael eu gwahodd a’u hannog i wneud cais am y cyfle i arddangos y pabïau enwog a oedd yn Nhŵr Llundain yn flaenorol. Crëwyd y pabïau i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Caiff dwy ran o’r gwaith gwreiddiol, Blood Swept Lands and Seas of Red, a ddenodd filiynau o ymwelwyr pan oedd i’w weld yn Nhŵr Llundain, eu harddangos mewn lleoliadau ledled y Deyrnas Unedig yn 2015 a 2016. Mae’r rhannau o’r enw ‘Wave’ a ‘Weeping Window’ wedi cael eu cadw ar gyfer y genedl gan Ymmdiriedolaeth Backstage a Sefydliad Clore Duffield, sydd, yn eu tro, wedi’u rhoi fel rhodd i 14-18 NOW ac Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth. Yn awr, caiff lleoliadau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig eu hystyried ar gyfer arddangos y pabïau. Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC, yn annog lleoliadau yng Nghymru i gynnig am y cyfle. Caiff y lleoliadau eu dewis gan ystyried sawl maen prawf, gan gynnwys lle priodol i arddangos y pabïau, y gallu i ganiatáu mynediad am ddim i’w gweld, a pherthnasedd y lleoliad i’r Rhyfel Byd Cyntaf. Ar y panel a fydd yn dewis y lleoliadau bydd yr artist a greodd y gwaith, Paul Cummins, y dylunydd Tom Piper, Cyfarwyddwraig 14-18 NOW Jenny Waldman, y cyflwynydd teledu Ade Adepitan a Chyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfeydd Rhyfel yr Ymerodraeth, Diane Lees. Bydd y panel yn ymgynghori â Phalasau Brenhinol Hanesyddol a rhanddeiliaid eraill wrth wneud eu penderfyniad. Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch e-bost at [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> i gael pecyn gwybodaeth. Cysylltwch â 14-18 NOW gydag unrhyw ymholiadau: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> Y dyddiad cau ar gyfer arddangos y pabïau yn 2015 yw 10am, dydd Llun 22 Mehefin. Y dyddiad cau ar gyfer arddangos y pabïau yn 2016 yw 10am, dydd Llun 3 Awst. Bydd cyfle i fynegi diddordeb ar gyfer arddangos y pabïau yn 2017 a 2018 o ddechrau 2016 ymlaen. --- Elizabeth Bennett Is-adran Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd - Museums Archives and Libraries Wales Division Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth - Department for Economy, Science and Transport Llywodraeth Cymru - Welsh Government Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR. Ffon/Tel: 0300 062 2101 Fax/Ffacs: 0300 062 2052 e-bost/e-mail: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes. Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.