Dw i’n gweld ‘trosolwg’ yn od fel ansoddair hefyd Bet. Dw i’n tueddu i feddwl bod yr ystyr yn amrywio o ddogfen i ddogfen – weithiau mae’n golygu ‘crynodeb’, weithiau mae’n golygu ‘cefndir cyffredinol’. Dw i’n tueddu i ddarllen be sy’n dod wedyn a phenderfynu ar bennawd sy’n addas.
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Bet Eldred
Anfonwyd: 29 Mai 2015 15:53
At: [log in to unmask]
Pwnc: overview information
Prynhawn da
Allwch chi helpu gyda’r uchod ogydd?
Mae ambell enghraifft o ‘gwybodaeth trosolwg’ ar y we, ond tybed a fyddai ‘gwybodaeth gychwynnol’ yn cyfleu’r ystyr? Neu sylfaenol efallai?
Diolch
Bet