Print

Print


Dwi'm yn gwybod a yw'r ffaith fod "glas" ym myd natur yn arfer golygu "gwyrdd" yn ei wneud yn gamarweiniol 'ta ydyn ni wedi "anghofio" hynny bellach.

Siân
 
On 2015 Mai 1, at 11:46 AM, Einir Hughes wrote:

Mi welish i hwnnw, ond eisiau enw mwy bachog o'n i - rhywbeth y byddai pobl yn fwy tebygol o'i ddefnyddio.
Am liw'r ffrwyth mae'r darn sydd gen i'n sôn hefyd. Dydi lliw llus America ddim yn swnio'n rhy grêt nacdi?
Hefyd,
"Gymri di lus America yn dy Smwddi?"
"Gymri di lasaeron yn dy Smwddi?"
Oes na wrthwynebiadau cryf i 'glasaeron'? Dwi'n eitha'i licio fo!



Date: Fri, 1 May 2015 11:38:19 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Blueberry
To: [log in to unmask]

Mae'r Porth Termau'n rhoi "llusen (llus) America" - o Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn. Cymdeithas Edward Llwyd 2003

Siân
On 2015 Mai 1, at 11:19 AM, Einir Hughes wrote:

Dwi wedi edrych yn ôl ar drafodaeth flaenorol a gafwyd am y ffrwythau bach yma, ond doedd yna ddim cytundeb ar derm Cymraeg amdanyn nhw.

Feddylish i ddilyn patrwm y 'blackberry' a chynnig 'mwyar gleision', ond mae'r rhain eisoes yn bodoli ('dewberries' yn ôl GPC)

Dydyn nhw ddim yr un fath â 'bilberries', sef llus, a'r broblem ydi mai wedi dod drosodd o America maen nhw'n wreiddiol, felly does yna ddim enw Cymraeg arnyn nhw. (Mae llus i'w gweld yn Llyfr Natur Iolo Williams, ond does na'm sôn am 'blueberries').

Mae rhai pobl yn cyfeirio at lus fel 'llus duon', felly fyddai'n syniad gwahaniaethu drwy roi 'llus gleision'?
Neu fathu term newydd fel 'glasaeron'?

Dwi wedi bod yn pendroni am hyn ers sbel, ond mae o newydd godi mewn darn o waith dwi wrthi'n ei gyfieithu, felly mi fyswn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw farn neu gymorth!

Diolch,
Einir