Mae cadw’r ‘cledrau’n gwneud synnwyr – ond ella y byddai ‘o’r ochr draw i’r cledrau’ yn fwy naturiol na’r ‘ochr anghywir i’r cledrau’?
Carolyn
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Anfonwyd: 19 Mai 2015 10:33
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: the wrong side of the tracks
Dacia! cymysgu fi niwyllianna'n botas! on i di colli golwg ar New Jersey am funud.
Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
2015-05-19 11:25 GMT+02:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
Ond os wyt ti'n sôn am New Jersey, alli di ddim dod mewn â Llanbidinodyn wedyn!
Siân
On 2015 Mai 19, at 10:16 AM, anna gruffydd wrote:
On i'n rhyw chwara efo'r syniad o'i wneud yn ymadrodd lleol, gan mai rhaglen i awditoriwm penodol ydi hon. Neu tybed oes yna le cyffredinol (fel Llanbidinodyn)?
Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
2015-05-19 10:53 GMT+02:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:
Dwi’n rhyw feddwl mai ymadroddion lleol i drefi/pentrefi penodol fyddai wedi cael eu defnyddio. “Un o Gwm-sgwt Isa ydi o” lle yr ystyriwyd Cwm-sgwt Isa yn fwy anwaraidd o lawer na Chwm-sgwt Ucha, er enghraifft.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 19 May 2015 09:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: the wrong side of the tracks
Diolch am y cynnig - ond dwyr rhywun ddim wedyn ydyn nhw o Splott ta Cyncoed, na wyr?! Mae gofyn cyfleu eu bod nhw o ochor rong y dre (ond dwi'n teimlo bod 'y dre' yn rhy ryw benodol). Rhaid bod na ryw hen ddywediad da. Be fasa'n neinia ni di'i ddeud?
Anna
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
2015-05-19 10:25 GMT+02:00 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>:
yr ochr arall i'r dre ?
On 18/05/2015 16:08, anna gruffydd wrote:
Cy-destun:- Frankie Valli & The Four Seasons
Y frawddeg:- 'Discover how four New Jersey boys from the wrong side of the tracks invented their own sound...'
'o ben tlotaf y dref' sydd yn GyrA, ond dwi'n teimlo bod hynny braidd yn rhy llythrennol. 'Dim uwch baw sawdl' ella - ta ydi hynny'n rhy ddilornus?
Diolch
Anna
This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
www.avast.com