Mae ‘na elfen ddilornus yn y peth does oherwydd ei fod yn dweud ‘wrong side’– h.y. mae ‘na elfen o bennu gwerth a meddwl bod ‘na ddau fath o bobl (fel yn y Rhodd Mam.)  Ond dw in’ cytuno nad yw mor gryf â ciaridyms.  Ddim yn lot o help”

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Anfonwyd: 19 Mai 2015 09:39
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: the wrong side of the tracks

 

Diolch am y cynnig - ond dwyr rhywun ddim wedyn ydyn nhw o Splott ta Cyncoed, na wyr?! Mae gofyn cyfleu eu bod nhw o ochor rong y dre (ond dwi'n teimlo bod 'y dre' yn rhy ryw benodol). Rhaid bod na ryw hen ddywediad da. Be fasa'n neinia ni di'i ddeud?

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2015-05-19 10:25 GMT+02:00 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>:

yr ochr arall i'r dre ?

On 18/05/2015 16:08, anna gruffydd wrote:

Cy-destun:- Frankie Valli & The Four Seasons

 

Y frawddeg:- 'Discover how four New Jersey boys from the wrong side of the tracks invented their own sound...'

 

'o ben tlotaf y dref' sydd yn GyrA, ond dwi'n teimlo bod hynny braidd yn rhy llythrennol. 'Dim uwch baw sawdl' ella - ta ydi hynny'n rhy ddilornus?

 

Diolch

 

Anna 

 




Avast logo

This email has been checked for viruses by Avast antivirus software.
www.avast.com