Print

Print


Yn anffodus ‘tirfeddiannwr’ a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o’r ddeddfwriaeth ddwyieithog lle ceir ‘landowner’ yn Saesneg.  Er, mae rhywun call wedi defnyddio ‘perchnogion tir’ yn Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 06 May 2015 10:41
To: [log in to unmask]
Subject: Re: occupier a landowner / meddiannydd a thirfeddiannwr

 

‘Deiliad’ fydda i’n ei ddefnyddio hefyd, ac mae cael fy nisgrifio fel ‘tirfeddiannwr’ yn gneud i mi deimlo’n anghyfforddus rywsut – fel taswn i wedi bradychu hen ferthyron y degwm falle!

Beryg mod i’n hyn ag ydw i’n ei feddwl!

Rhian

 

From: [log in to unmask]"> Sian Roberts

Sent: Wednesday, May 06, 2015 10:02 AM

Subject: Re: occupier a landowner / meddiannydd a thirfeddiannwr

 

Cytuno - "deiliad" fydda i'n ei ddefnyddio.  "Meddiannu" yn fy atgoffa o'r dyddiau pan oedden ni'n martsho i mewn i swyddfeydd hwn a'r llall ac yn eistedd ar y llawr slawer dydd.

 

Siân

 

 

On 2015 Mai 6, at 9:39 AM, Rhian Jones wrote:



Mae’r rhain wedi cael eu trafod o’r blaen ond maen nhw’n codi’n aml iawn. Dw i’n gwybod bod y geiriau’n gywir, ond dw i’n ei chael hi’n anodd iawn i ddefnyddio ‘meddiannu’ a ‘meddiannydd’ am ‘occupy’ ac ‘occupier’ oherwydd bod yna rywbeth yn y geiriau, wrth sôn am dir neu dy, sy’n awgrymu i mi bod yr eiddo wedi cael ei gymryd oddi ar rywun arall. Yr un fath efo ‘tirfeddiannwr’. Pan fydda i’n llenwi ffurflenni mae’n well gen i gael fy nisgrifio fel ‘perchennog tir’ nag fel ‘tirfeddiannwr’, ac mae’n debyg bod yn well gen i fod yn ‘ddeiliad’ nag yn ‘feddiannydd’.

Mae rhywbeth bach yn poeni pawb ...

Rhian