Dwi'n teimlo rhywsut ei bod hi'n iawn cyfieithu hwn ond eisiau bod yn siŵr. A hefyd, dydw i ddim yn sicr beth yw ystyr y 'v'. Ai 'versus' yw ystyr hwn?
Mae'n ymwneud
ag angen plentyn hawdd ei niweidio i gael canolwr wrth sefyll o flaen ei well er mwyn sicrhau gwrandawiad teg. Yn ôl fel dwi'n deall, o ddarllen am hyn ar y we, mae 'C' yn sefyll am 'child'. Felly a fyddai'n iawn cyfieithu hwn fel 'P'?
Os yw 'v' yn golygu 'versus', mi fuaswn i'n ei gyfieithu fel 'P yn erbyn Llys Ieuenctid Sevenoaks' ond mae hynny'n dibynnu ar ystyr y 'v'.
Mi faswn i'n dra diolchgar am unrhyw gymorth.