Cyd-destun: chwaraeon

 

“Pwynt gornest” yn ôl y geiriaduron.  Wrthi’n chwarae badminton neithiwr, a rhywun wedi gofyn i mi beth oedd ‘match-point’ yn Gymraeg.  Rhywbeth fel “un pwynt i ennill y gêm” daeth i’m meddwl i.  Ydy ‘pwynt gornest’ yn gyfieithiad cyfarwydd ac yn cael ei ddefnyddio ar sylwebaeth chwaraeon tybed?

 

Diolch am unrhyw sylwadau.

 

Alison