Aeron
Taid dyn nhw yn tŷ ni achos bod gan yn nhad lond
perllan ohonyn nhw'n tyfy yn yr ardd a'i fod o'n
rhoi cyflenwad di ddiwedd i ni drwy'r tymor. Dim
bod hynny am fod o help i neb arall.
Dwi'n cofio clywed 'mafon mihafan' ar gartŵn
Nodi, ac roedd y ffrwythau'n edrych fel mai
Blueberries oedden nhw. Dwi heb glywed hynny'n
unlle arall. Tybed pwy sy'n addasu Nodi?
Ifan
Sent from Yahoo
Mail for iPhone
At
1 Mai 2015 11:39:33, Sian Roberts<[log in to unmask]'>
wrote:Mae'r Porth Termau'n rhoi "llusen (llus)
America" - o Planhigion Blodeuol,
Conwydd a Rhedyn. Cymdeithas Edward Llwyd 2003
Siân
On 2015 Mai 1, at 11:19 AM, Einir
Hughes wrote:
Dwi wedi edrych yn ôl ar drafodaeth
flaenorol a gafwyd am y ffrwythau bach
yma, ond doedd yna ddim cytundeb ar derm
Cymraeg amdanyn nhw.
Feddylish i ddilyn patrwm y 'blackberry'
a chynnig 'mwyar gleision', ond mae'r
rhain eisoes yn bodoli ('dewberries' yn
ôl GPC)
Dydyn nhw ddim yr un fath â
'bilberries', sef llus, a'r broblem ydi
mai wedi dod drosodd o America maen
nhw'n wreiddiol, felly does yna ddim enw
Cymraeg arnyn nhw. (Mae llus i'w gweld
yn Llyfr Natur Iolo Williams, ond does
na'm sôn am 'blueberries').
Mae rhai pobl yn cyfeirio at lus fel
'llus duon', felly fyddai'n syniad
gwahaniaethu drwy roi 'llus gleision'?
Neu fathu term newydd fel 'glasaeron'?
Dwi wedi bod yn pendroni am hyn ers
sbel, ond mae o newydd godi mewn darn o
waith dwi wrthi'n ei gyfieithu, felly mi
fyswn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw farn
neu gymorth!
Diolch,
Einir
|