Print

Print


Waw.

On 01/05/2015 11:57, Sian Roberts wrote:
[log in to unmask]" type="cite">"Googleberries" yw "mafon mihafan" yn ôl hwn!  Diffiniad urbandictionary.com o "googleberries" i'w weld islaw!





On 2015 Mai 1, at 11:48 AM, ifan prys wrote:

Aeron Taid dyn nhw yn tŷ ni achos bod gan yn nhad lond perllan ohonyn nhw'n tyfy yn yr ardd a'i fod o'n rhoi cyflenwad di ddiwedd i ni drwy'r tymor. Dim bod hynny am fod o help i neb arall.

Dwi'n cofio clywed 'mafon mihafan' ar gartŵn Nodi, ac roedd y ffrwythau'n edrych fel mai Blueberries oedden nhw. Dwi heb glywed hynny'n unlle arall. Tybed pwy sy'n addasu Nodi?

Ifan

Sent from Yahoo Mail for iPhone

At 1 Mai 2015 11:39:33, Sian Roberts<[log in to unmask]'> wrote:Mae'r Porth Termau'n rhoi "llusen (llus) America" - o Planhigion Blodeuol, Conwydd a Rhedyn. Cymdeithas Edward Llwyd 2003

Siân
On 2015 Mai 1, at 11:19 AM, Einir Hughes wrote:

Dwi wedi edrych yn ôl ar drafodaeth flaenorol a gafwyd am y ffrwythau bach yma, ond doedd yna ddim cytundeb ar derm Cymraeg amdanyn nhw.

Feddylish i ddilyn patrwm y 'blackberry' a chynnig 'mwyar gleision', ond mae'r rhain eisoes yn bodoli ('dewberries' yn ôl GPC)

Dydyn nhw ddim yr un fath â 'bilberries', sef llus, a'r broblem ydi mai wedi dod drosodd o America maen nhw'n wreiddiol, felly does yna ddim enw Cymraeg arnyn nhw. (Mae llus i'w gweld yn Llyfr Natur Iolo Williams, ond does na'm sôn am 'blueberries').

Mae rhai pobl yn cyfeirio at lus fel 'llus duon', felly fyddai'n syniad gwahaniaethu drwy roi 'llus gleision'?
Neu fathu term newydd fel 'glasaeron'?

Dwi wedi bod yn pendroni am hyn ers sbel, ond mae o newydd godi mewn darn o waith dwi wrthi'n ei gyfieithu, felly mi fyswn i'n ddiolchgar iawn am unrhyw farn neu gymorth!

Diolch,
Einir