Waw. On 01/05/2015 11:57, Sian Roberts wrote: > "Googleberries" yw "mafon mihafan" yn ôl hwn! Diffiniad > urbandictionary.com <http://urbandictionary.com> o "googleberries" i'w > weld islaw! > > / > / > > > > On 2015 Mai 1, at 11:48 AM, ifan prys wrote: > >> Aeron Taid dyn nhw yn tŷ ni achos bod gan yn nhad lond perllan ohonyn >> nhw'n tyfy yn yr ardd a'i fod o'n rhoi cyflenwad di ddiwedd i ni >> drwy'r tymor. Dim bod hynny am fod o help i neb arall. >> >> Dwi'n cofio clywed 'mafon mihafan' ar gartŵn Nodi, ac roedd y >> ffrwythau'n edrych fel mai Blueberries oedden nhw. Dwi heb glywed >> hynny'n unlle arall. Tybed pwy sy'n addasu Nodi? >> >> Ifan >> >> Sent from Yahoo Mail for iPhone <https://yho.com/footer0> >> >> At 1 Mai 2015 11:39:33, Sian Roberts<[log in to unmask] >> <mailto:[log in to unmask]>'> wrote:Mae'r Porth >> Termau'n rhoi "llusen (llus) America" - o Planhigion Blodeuol, >> Conwydd a Rhedyn. Cymdeithas Edward Llwyd 2003 >> >> Siân >> On 2015 Mai 1, at 11:19 AM, Einir Hughes wrote: >> >>> Dwi wedi edrych yn ôl ar drafodaeth flaenorol a gafwyd am y >>> ffrwythau bach yma, ond doedd yna ddim cytundeb ar derm Cymraeg >>> amdanyn nhw. >>> >>> Feddylish i ddilyn patrwm y 'blackberry' a chynnig 'mwyar >>> gleision', ond mae'r rhain eisoes yn bodoli ('dewberries' yn ôl GPC) >>> >>> Dydyn nhw ddim yr un fath â 'bilberries', sef llus, a'r broblem >>> ydi mai wedi dod drosodd o America maen nhw'n wreiddiol, felly >>> does yna ddim enw Cymraeg arnyn nhw. (Mae llus i'w gweld yn >>> Llyfr Natur Iolo Williams, ond does na'm sôn am 'blueberries'). >>> >>> Mae rhai pobl yn cyfeirio at lus fel 'llus duon', felly fyddai'n >>> syniad gwahaniaethu drwy roi 'llus gleision'? >>> Neu fathu term newydd fel 'glasaeron'? >>> >>> Dwi wedi bod yn pendroni am hyn ers sbel, ond mae o newydd godi >>> mewn darn o waith dwi wrthi'n ei gyfieithu, felly mi fyswn i'n >>> ddiolchgar iawn am unrhyw farn neu gymorth! >>> >>> Diolch, >>> Einir >> >