Cer â dy bwrs 'da ti! Dwi'n meddwl, os nad ydi rhywun yn cael brên-wêf am derm Cymraeg/Cymreig sy'n taro i'r dim, mae'n well defnyddio term sy'n cyfateb yn weddol agos i'r Saesneg. Felly, byddai "amlsgwarog" yn gwneud yn iawn! Siân On 2015 Ebrill 30, at 11:02 AM, MELANIE DAVIES wrote: > Bydd rhaid I fi fynd I weld beth yw'r gwahaniaeth! Amlsgwarog yn swnio'n iawn felly. > > Melanie > > > From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > To: [log in to unmask] > Sent: Thursday, 30 April 2015, 10:50 > Subject: Re: multi check, multicheck > > Ond dwi yn gweld y gwahaniaeth rhwng check (sgwarog) a 'multi check'. > > amlsgwarog? > > Am Felin Tregwynt dwi'n sgwennu, Carolyn! Es i at eu gwefan cyn dod yma, ond mae'n uniaith Saesneg. > > Geraint > > On 30/04/2015 10:33, MELANIE DAVIES wrote: >> Mae 'patrwm sgwarog' yng Ngeiriadur yr Academi dan 'check'. Welai ddim o'i le ar hwn. >> >> >> >> From: Geraint Lovgreen mailto:[log in to unmask] >> To: [log in to unmask] >> Sent: Thursday, 30 April 2015, 10:12 >> Subject: multi check, multicheck >> >> O Wglo "multi check blanket" mae digon o enghreifftiau ar y we - ond be >> di'r gwahaniaeth rhwng "multi check" a "tartan" tybed? >> >> Ac oes gan rywun derm Cymraeg plis? ;-) >> >> Geraint >> >> > > >