Print

Print


Ymddiheuriadau! Anwybydder y neges flaenorol – wedi cael eglurhad – ond er gwybodaeth – ystyr y remission yw bod hyn a hyn o oriau’n cael eu tynnu oddi ar yr oriau y mae gofyn i’r darlithydd eu gweithio, felly mae ‘rhyddhau’ yn gwneud synnwyr i raddau – maen nhw’n cael eu rhyddhau am hyn a hyn o oriau o’u dyletswyddau addysgu.

Carolyn

 

Oddi wrth: Carolyn Iorwerth [mailto:[log in to unmask]]
Anfonwyd: 29 Ebrill 2015 13:46
At: 'Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary'
Pwnc: remission

 

Helo

 

Y cyd-destun yw amodau gwaith darlithwyr   - remission arrangements – sef ffordd o wneud iawn (am wn i) am oriau ychwanegol y bydd darlithwyr yn eu gweithio ar ben oriau eu contract.

 

 

Mae ‘na enghreifftiau ar y we o ddefnyddio ‘rhyddhau’ ond dw i’n teimlo bod hyn yn rhy amwys e.e. ‘Trefniadau Rhyddhau’ mewn pennawd am ‘Remission Arrangements’.

Dyma enghraifft arall:

 

Staff who undertake lead verifier responsibilities will have up to 20 hours per annum{ut4} remitted.

 

Unrhyw awgrym? Neu oes ‘na rywun sy’n gweithio ym maes addysg uwch/bellach sy’n gallu esbonio imi’n union beth yw’r remission?

 

Diolch

Carolyn