Print

Print


Diolch Ann. Ond mae'n dipyn o ddring i mi fynd i chwilota mewn llyfrgelloedd prifysgolion neu ddod ar d'ofyn di i gael eu benthyg!

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2015-04-15 14:57 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>:
O ran darlledu, ceir geirfa yng nghefn "Byd y Teledu" Eifion Lloyd Jones (1989) a chyhoeddodd y Coleg Normal "Geirfa Cyfathrebu" (tua 1993), ymchwil gan Handeal Jones, sy'n delio a'r meysydd Cyhoeddi a thechnoleg gwybodaeth, Ffotograffiaeth a ffilm, Byd y teledu a Sain a radio. Cynhwysir pethau fel autocue, transverse scan quad, boom microphone ayb, sy'n swnio'n reit dechnegol i mi. Mae'n amlwg yn hen bryd i rywun gynhyrchu rhywbeth o'r newydd, ond mae'r ddau gennyf i, ac efallai ar gael mewn llyfrgellodd prifysgol??

Ann


On 15/04/2015 12:47, anna gruffydd wrote:
Maddeuwch i mi am gais ychydig y tu allan i'n maes arferol ni. Cais ydi hwn ar ran cyfaill. Mae wedi cael sgwrs a'r Gymdeithas Cyfieithwyr ond wedi cael ar ddeall mai ychydig o fanylion sydd ganddyn nhw ynghylch arbenigaethau penodol a chyfyng. Dogfen yn ymwneud a thechnoleg darlledu, gweddarlledu a phethau cyfrifiadurol sydd dan sylw. Oes yna rywun ohonoch chi'n arbenigo yn y meysydd hynny? O ran deunydd cyfrifiadurol, mae geirfa Microsoft yn ardderchog, ond faswn i ddim yn meiddio mentro i faes darlledu a gweddarlledu, ac mae hi'n ddogfen bur dechnegol, cyfwrwyddiada a ballu. Os gall rhywun fod o gymorth mi faswn yn ddiolchgar iawn.

Anna

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5863 / Virus Database: 4331/9543 - Release Date: 04/15/15