Be am noeth "parchus"? (gyda'r dyfynnodau).
Geraint
On 06/04/2015 09:37, anna gruffydd wrote:Mae ymhlyg yn golygu'r un peth a'r Saesneg, yntydi (tae hi'n dod at hynny, tydi 'impled' ddim yn fy nharo i o gwbwl - fasa gin i'm obadeio be oedd o'n meddwl, heb eglurhad Gareth).AnnaYe who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!2015-04-06 10:20 GMT+02:00 Cyfri Dot <[log in to unmask]>:
O, dwi'n gweld - ond nid awgyrymog ydy'r gair addas chwaith! Beth am ddefnyddio 'ymhlyg'?Ia, ond nid ymddangosiadol noeth ydyn nhw. Maen nhw'n noeth go iawn, jyst na di'r 'naughty bits' ddim i'w gweld. Fel mae'n digwydd, mae gen i bortread fel'na - mae'n amlwg mod i'n noethlymyn groen ond does na ddim byd 'anweddus' i'w weld.AnnaYe who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!2015-04-06 9:58 GMT+02:00 Cyfri Dot <[log in to unmask]>:
Beth am 'ymddangosiadol noeth'?Mae 'awgrymog' yn golygu 'suggestive' i mi - y gwrthwyneb i'r hyn sydd dan sylw efallai?Cystadleuaeth harddwch sydd dan sylw:
(You) Must NOT have posed nude or topless, or for implied nude shots for any photographs, professional or amateur, or film in any capacity whatsoever.
Mewn lluniau implied nude, bydd modelau yn amlwg yn noeth ond yn sefyll, yn eistedd neu'n gorwedd mewn modd sy'n cuddio'u organau rhywiol a'u blewiach (a'r bronnau yn achos marched).
Beth am 'luniau noeth awgrymog'? Neu 'luniau bron yn noeth'?