Dwi’n weddol sicr bod y ‘multi’ yn cyfeirio at y lliw. O edrych ar gatalogau / gwefannau dillad a thecstilau, yn aml o dan ‘Colour’ fe welir ‘Multi’ h.y. multi-coloured. Er enghraifft, mae Melinau Bronte yn cynnig “Bronte Prestige Bronte Beige Multi Check Blanket” a ddisgrifir fel “Bronte Beige Multi variegated check prestige blanket” – beige yw’r cefndir ac mae llinellau o wahanol liwiau’n ffurfio’r patrwm sgwarog. Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 30 April 2015 10:50 To: [log in to unmask] Subject: Re: multi check, multicheck Ond dwi yn gweld y gwahaniaeth rhwng check (sgwarog) a 'multi check'. amlsgwarog? Am Felin Tregwynt dwi'n sgwennu, Carolyn! Es i at eu gwefan cyn dod yma, ond mae'n uniaith Saesneg. Geraint On 30/04/2015 10:33, MELANIE DAVIES wrote: Mae 'patrwm sgwarog' yng Ngeiriadur yr Academi dan 'check'. Welai ddim o'i le ar hwn. From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]><mailto:[log in to unmask]> To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> Sent: Thursday, 30 April 2015, 10:12 Subject: multi check, multicheck O Wglo "multi check blanket" mae digon o enghreifftiau ar y we - ond be di'r gwahaniaeth rhwng "multi check" a "tartan" tybed? Ac oes gan rywun derm Cymraeg plis? ;-) Geraint