Print

Print


Bore da Meinir

Fel mae'n digwydd buom yn trafod yr union fater hwn yn yr uned ychydig wythnosau'n ôl. Ffwrnais sydd yn y rhestr o enwau lleoedd y sir a luniwyd gan bwyllgor dan gadeiryddiaeth David Thorne sawl blwyddyn yn ôl, ac felly rydym wedi bod yn defnyddio Ffwrnais ers hynny. 

Ond, fel y dywedwch, Ffwrnes yw'r ffurf sydd ar yr arwydd, Ffwrnes a ddefnyddir gan yr Ysgol Gymraeg newydd ac wrth gwrs Ffwrnes yw'r ynganiad lleol. Yn ogystal, gan beri rhagor o gymysgwch, Y Ffwrnes yw'r enw ar y theatr sydd filltir o'r pentref!. 

Trech gwlad nag arglwydd (neu gyngor yn yr achos hwn) ac felly, yn sgil trafod y mater, rydym wedi penderfynu defnyddio'r ffurf a ffefrir yn lleol er mwyn sicrhau bod cysondeb gan dderbyn taw 'Y Ffwrnes' yw'r enw mwyach.

Gan obeithio bod hyn yn egluro rhywfaint ar y sefyllfa.

Hwyl

LlÅ·r

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Meinir Thomas
Sent: 17 April 2015 09:06
To: [log in to unmask]
Subject: Furnace

Bore da bawb,

Tybed a fedrwch chi fy helpu i â'r uchod - mae'n creu tipyn o ddryswch! Yn ôl gwefan Enwau Cymru, Ffwrnais yw Furnace yn Gymraeg, ac yn ôl Geiriadur yr Academi, mae 'Y Ffwrnais' yn enw ar le yng Nghymru (ond efallai ei fod yn sôn am y pentref yng Ngheredigion yn hytrach na Sir Gaerfyrddin - neu'r ddau?). Fodd bynnag, rwyf newydd edrych ar Google Maps ac yn gweld mai "Ffwrnes" sydd ar yr arwydd ar gyfer y pentref, ac Ysgol Gymraeg Ffwrnes sydd ar wefan yr ysgol leol. Wedi gŵglo 'Ffwrnes' a 'Ffwrnais', ac yn y canlyniadau ar gyfer Ffwrnes, mae'r ysgol a'r theatr yn dod i fyny, ac ar gyfer Ffwrnais, mae'r pentref yn dod i fyny, a hynny gan ffynonellau megis yr Eisteddfod a'r BBC.

Pa un sy'n gywir?

Meinir

Mae'r e-bost hwn ac unrhyw atodiadau yn gyfrinachol ac wedi'u bwriadu at ddefnydd yr unigolyn y'u cyfeiriwyd ato/ati yn unig. Os derbyniwch y neges hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r sawl a'i hanfonodd ar unwaith, dilëwch y neges o'ch cyfrifiadur a dinistriwch unrhyw gopïau papur ohoni. Ni ddylech ddangos yr e-bost i neb arall, na gweithredu ar sail y cynnwys. Eiddo'r awdur yw unrhyw farn neu safbwyntiau a fynegir, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwynt y Cyngor. Dylech wirio am firysau eich hunan cyn agor unrhyw atodiad. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am golled neu niwed a all fod wedi'i achosi gan firysau meddalwedd neu drwy ryng-gipio'r neges hon neu ymyrryd â hi.

This e-mail and any attachments are confidential and intended solely for the use of the individual to whom it is addressed. 
If received in error please notify the sender immediately, delete the message from your computer and destroy any hard copies. The e-mail should not be disclosed to any other person, nor the contents acted upon.

Any views or opinions expressed are those of the author and do not necessarily represent those of the Council.

You should carry out your own virus check before opening any attachment. We accept no liability for any loss or damage which may be caused by software viruses or interception/interruption of this mail.