Print

Print


Cofiwch fod Termau Cyfathrebu a Thermau Diwydiannau Creadigol ynghyd â diffiniadau i’w gweld ar wefan termau’r Coleg Cymraeg www.colegcymraeg.ac.uk/termau/<http://www.colegcymraeg.ac.uk/termau/> a hefyd fel rhan o’r Porth termau Cenedlaethol ar http://termau.org/. Mae’r rhain yn cynnwys llawer iawn o dechnoleg mwy diweddar na geirfaon papur yr 1980au a’r 1990au – a dweud y gwir dydyn ni yma ddim wedi cyhoeddi unrhyw eiriadur termau ar bapur ers 2007.

Ple fach garedig felly i chi nad ydych yn rhy hoff o’r dechnoleg newydd i gofio fod y geiriaduron ar-lein yn dipyn mwy cyfoes na’r hen rai papur!

Delyth

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Anfonwyd: 15 April 2015 14:11
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: technoleg darlledu, gweddarlledu a phethau cyfrifiadurol

Diolch Ann. Ond mae'n dipyn o ddring i mi fynd i chwilota mewn llyfrgelloedd prifysgolion neu ddod ar d'ofyn di i gael eu benthyg!

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2015-04-15 14:57 GMT+02:00 Ann Corkett <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>>:
O ran darlledu, ceir geirfa yng nghefn "Byd y Teledu" Eifion Lloyd Jones (1989) a chyhoeddodd y Coleg Normal "Geirfa Cyfathrebu" (tua 1993), ymchwil gan Handeal Jones, sy'n delio a'r meysydd Cyhoeddi a thechnoleg gwybodaeth, Ffotograffiaeth a ffilm, Byd y teledu a Sain a radio. Cynhwysir pethau fel autocue, transverse scan quad, boom microphone ayb, sy'n swnio'n reit dechnegol i mi. Mae'n amlwg yn hen bryd i rywun gynhyrchu rhywbeth o'r newydd, ond mae'r ddau gennyf i, ac efallai ar gael mewn llyfrgellodd prifysgol??

Ann

On 15/04/2015 12:47, anna gruffydd wrote:
Maddeuwch i mi am gais ychydig y tu allan i'n maes arferol ni. Cais ydi hwn ar ran cyfaill. Mae wedi cael sgwrs a'r Gymdeithas Cyfieithwyr ond wedi cael ar ddeall mai ychydig o fanylion sydd ganddyn nhw ynghylch arbenigaethau penodol a chyfyng. Dogfen yn ymwneud a thechnoleg darlledu, gweddarlledu a phethau cyfrifiadurol sydd dan sylw. Oes yna rywun ohonoch chi'n arbenigo yn y meysydd hynny? O ran deunydd cyfrifiadurol, mae geirfa Microsoft yn ardderchog, ond faswn i ddim yn meiddio mentro i faes darlledu a gweddarlledu, ac mae hi'n ddogfen bur dechnegol, cyfwrwyddiada a ballu. Os gall rhywun fod o gymorth mi faswn yn ddiolchgar iawn.

Anna


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com<http://www.avg.com>
Version: 2015.0.5863 / Virus Database: 4331/9543 - Release Date: 04/15/15





Rhif Elusen Gofrestredig 1141565 - Registered Charity No. 1141565

Gall y neges e-bost hon, ac unrhyw atodiadau a anfonwyd gyda hi, gynnwys deunydd cyfrinachol ac wedi eu bwriadu i'w defnyddio'n unig gan y sawl y cawsant eu cyfeirio ato (atynt). Os ydych wedi derbyn y neges e-bost hon trwy gamgymeriad, rhowch wybod i'r anfonwr ar unwaith a dilewch y neges. Os na fwriadwyd anfon y neges atoch chi, rhaid i chi beidio a defnyddio, cadw neu ddatgelu unrhyw wybodaeth a gynhwysir ynddi. Mae unrhyw farn neu safbwynt yn eiddo i'r sawl a'i hanfonodd yn unig ac nid yw o anghenraid yn cynrychioli barn Prifysgol Bangor. Nid yw Prifysgol Bangor yn gwarantu bod y neges e-bost hon neu unrhyw atodiadau yn rhydd rhag firysau neu 100% yn ddiogel. Oni bai fod hyn wedi ei ddatgan yn uniongyrchol yn nhestun yr e-bost, nid bwriad y neges e-bost hon yw ffurfio contract rhwymol - mae rhestr o lofnodwyr awdurdodedig ar gael o Swyddfa Cyllid Prifysgol Bangor.

This email and any attachments may contain confidential material and is solely for the use of the intended recipient(s). If you have received this email in error, please notify the sender immediately and delete this email. If you are not the intended recipient(s), you must not use, retain or disclose any information contained in this email. Any views or opinions are solely those of the sender and do not necessarily represent those of Bangor University. Bangor University does not guarantee that this email or any attachments are free from viruses or 100% secure. Unless expressly stated in the body of the text of the email, this email is not intended to form a binding contract - a list of authorised signatories is available from the Bangor University Finance Office.