Os yw o unrhyw gymorth, mae Geiriadur Rhydychen yn rhoi dau ddiffiniad o'r ferf 'source" with object 1. Obtain from a particular source: each type of coffee is sourced from one country 2. Find out where (something) can be obtained: she was called upon to source a supply of carpet Oes modd gwybod / dyfalu a yw'n golygu 'cael' neu 'canfod ffynhonnell' yn y cyd-destun hwn? Claire From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth Sent: 03 March 2015 12:02 To: [log in to unmask] Subject: Source - berf Oes gan rywun ffordd dwt o fynegi 'source'? E.e. 'to source materials'. Mae'n iawn pan fydd gan rywun wrthrych - mae'n bosib defnyddio rhywbeth cwmpasog e.e. dod o hyd i /cael gafael ar bethau Ond be sgen i heddiw ydy 'source' ar ei ben ei hun, sef y cam cyntaf wrth gaffael. Unrhyw awgrym? Diolch Carolyn