Campus. Diolch yn fawr iawn 2015-03-26 14:40 GMT+00:00 Ann Corkett <[log in to unmask]>: > Llawer o ddiolch, Duncan. 'Rwy'n copio'r neges hon at y cylch gan nad > wyf yn sicr a ydych chi'n medru anfon at y cylch heb fod yn aelod. > > Ann > > On 26/03/2015 14:15, Duncan Brown wrote: > > Ann a Bruce > Cytunaf yn bendant gyda "chwilen rhisgl sbriws Ewrop". Mae angen y gair > rhisgl gan fod y chwilen hwn yn perthyn i'r *Scolytidae *(sef y *bark > beetles*) ac mi fydd y term generig "chwilen rhisgl" yn hwyluso enwi'r > rhywogaethau eraill yn y grwp hwn pan ddaw'r amser. > Duncan > > > > On 25/03/2015 15:19, Ann Corkett wrote: > > O'r enwau a gynigiwyd, ffafriaf "chwilen rhisgl sbriws Ewrop" gan ei fod > yn llai o lond ceg. Ni wn i ddim am bryfetach ac felly ni ddeallaf "wyth > dant" - rhaid bod rheswm da dros yr enw, ond ni wyddwn fod gan chwilod > ddannedd o'r blaen, yn arbennig os nad oes ond wyth ohonynt. A oes gwir > angen "rhisgl"? A fyddai "chwilen sbriws Ewrop" yn ddigon? Ynteu a oes yna > ddwy chwilen, un yn "chwilen sbriws" a'r llall yn "chwilen rhisgl sbriws"? > Atebed yr arbenigwyr. Onid oes dwy rywogaeth wahanol, yna gellid hepgor > "rhisgl" a dweud "chwilen sbriws Ewrop". > > Anfonaf gopi o hwn at Duncan Brown a Twm Elias er gwybodaeth. > > (SYLWER: chwiliais ychydig cyn anfon hyn, a gweld BOD "six-toothed spruce > bark beetle" ar gael hefyd! - Ann) > > Bruce > > On 24/03/2015 21:18, Sian Roberts wrote: > > Ddefnyddiais i " chwilen wythdant rhisgl sbriws" rhyw dro. > A dwi'n gweld bod rhywun arall wedi defnyddio "chwilen rhisgl sbriws wyth > dant". > > Siân > > On 2015 Mawrth 24, at 9:03 PM, Cyfieithydd Achlysurol wrote: > > Ips typographa yw hon, rhywogaeth sy'n gynhenid yn Ewrop ond sy'n > prysur ddatblygu'n bla ar goed sbriws ym Mhrydain. > > Heb gael hyd i enw Cymraeg ar y we felly a fyddai 'chwilen rhisgl sbriws > Ewrop(eaidd)' neu 'Chwilen Ewropeaidd rhisgl sbriws' yn addas? > > Diolch yn fawr > > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2015.0.5751 / Virus Database: 4315/9374 - Release Date: 03/24/15 > > > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2015.0.5751 / Virus Database: 4315/9385 - Release Date: 03/26/15 > > >