Popeth yn iawn, a da cael fy mhrocio i sylweddoli bod Dewi ei hunan yn dyfynnu o'r Efengyl. Heb feddwl am hynny o'r blaen, er mor enwog yw'r ymadrodd.

2015-03-20 8:41 GMT+00:00 Bethan Jones <[log in to unmask]>:
David
Mae'n ddrwg gen i - wnes i ddim darllen eich cwestiwn i'r pen. Ymddiheuriadau.



Cofion
Bethan

-----Original Message----- From: David Bullock
Sent: Friday, March 20, 2015 8:03 AM
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: "Bydwch lawen..."

Bore da, gyfeillion.

Chwilio am ffynhonnell dyfyniad ydw i eto.

Y tro yma, y frawddeg sy gen i yw:

‘Be joyful, and keep your faith and your creed, and do the little things that you have seen me do and heard about’ (D. Simon Evans [editor] 1988, The Welsh Life of St David, Univ. Wales, p. 13).

Rwy'n dyfalu mai at Buched Dewi (http://cy.wikipedia.org/wiki/Delwedd:Buchedd_Dewi_gyda_Rhagymadrodd_a_Nodiadau_(llyfr).jpg) gan yr un golygydd y dylwn i droi er mwyn gweld y dyfyniad gwreiddiol, ond does dim copi gen i.

Oes yna rywun all helpu plis drwy roi'r geiriau Cymraeg gwreiddiol a nodi ar ba dudalen maen nhw?

Diolch!