Llawer o ddiolch, Duncan.  'Rwy'n copio'r neges hon at y cylch gan nad wyf yn sicr a ydych chi'n medru anfon at y cylch heb fod yn aelod.

Ann

On 26/03/2015 14:15, Duncan Brown wrote:
[log in to unmask]" type="cite">
Ann a Bruce
Cytunaf yn bendant gyda "chwilen rhisgl sbriws Ewrop". Mae angen y gair rhisgl gan fod y chwilen hwn yn perthyn i'r Scolytidae (sef y bark beetles) ac mi fydd y term generig "chwilen rhisgl" yn hwyluso enwi'r rhywogaethau eraill yn y grwp hwn pan ddaw'r amser.
Duncan


On 25/03/2015 15:19, Ann Corkett wrote:
[log in to unmask]" type="cite"> O'r enwau a gynigiwyd, ffafriaf "chwilen rhisgl sbriws Ewrop" gan ei fod yn llai o lond ceg.  Ni wn i ddim am bryfetach ac felly ni ddeallaf "wyth dant" - rhaid bod rheswm da dros yr enw, ond ni wyddwn fod gan chwilod ddannedd o'r blaen, yn arbennig os nad oes ond wyth ohonynt. A oes gwir angen "rhisgl"? A fyddai "chwilen sbriws Ewrop" yn ddigon? Ynteu a oes yna ddwy chwilen, un yn "chwilen sbriws" a'r llall yn "chwilen rhisgl sbriws"?  Atebed yr arbenigwyr.  Onid oes dwy rywogaeth wahanol, yna gellid hepgor "rhisgl" a dweud "chwilen sbriws Ewrop".

Anfonaf gopi o hwn at Duncan Brown a Twm Elias er gwybodaeth.

(SYLWER: chwiliais ychydig cyn anfon hyn, a gweld BOD "six-toothed spruce bark beetle" ar gael hefyd! - Ann)

Bruce

On 24/03/2015 21:18, Sian Roberts wrote:
[log in to unmask]" type="cite">Ddefnyddiais i " chwilen wythdant rhisgl sbriws" rhyw dro.
A dwi'n gweld bod rhywun arall wedi defnyddio "chwilen rhisgl sbriws wyth dant".

Siān
    
On 2015 Mawrth 24, at 9:03 PM, Cyfieithydd Achlysurol wrote:

Ips typographa yw hon, rhywogaeth sy'n gynhenid yn Ewrop ond sy'n prysur ddatblygu'n bla ar goed sbriws ym Mhrydain. 

Heb gael hyd i enw Cymraeg ar y we felly a fyddai 'chwilen rhisgl sbriws Ewrop(eaidd)' neu 'Chwilen Ewropeaidd rhisgl sbriws' yn addas?

Diolch yn fawr

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5751 / Virus Database: 4315/9374 - Release Date: 03/24/15



No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2015.0.5751 / Virus Database: 4315/9385 - Release Date: 03/26/15