Llawer o ddiolch, Duncan. 'Rwy'n copio'r neges hon at y cylch gan nad wyf yn sicr a ydych chi'n medru anfon at y cylch heb fod yn aelod. Ann On 26/03/2015 14:15, Duncan Brown wrote: > Ann a Bruce > Cytunaf yn bendant gyda "chwilen rhisgl sbriws Ewrop". Mae angen y > gair rhisgl gan fod y chwilen hwn yn perthyn i'r /Scolytidae /(sef y > /bark beetles/) ac mi fydd y term generig "chwilen rhisgl" yn hwyluso > enwi'r rhywogaethau eraill yn y grwp hwn pan ddaw'r amser. > Duncan > > > On 25/03/2015 15:19, Ann Corkett wrote: >> O'r enwau a gynigiwyd, ffafriaf "chwilen rhisgl sbriws Ewrop" gan ei >> fod yn llai o lond ceg. Ni wn i ddim am bryfetach ac felly ni >> ddeallaf "wyth dant" - rhaid bod rheswm da dros yr enw, ond ni wyddwn >> fod gan chwilod ddannedd o'r blaen, yn arbennig os nad oes ond wyth >> ohonynt. A oes gwir angen "rhisgl"? A fyddai "chwilen sbriws Ewrop" >> yn ddigon? Ynteu a oes yna ddwy chwilen, un yn "chwilen sbriws" a'r >> llall yn "chwilen rhisgl sbriws"? Atebed yr arbenigwyr. Onid oes dwy >> rywogaeth wahanol, yna gellid hepgor "rhisgl" a dweud "chwilen sbriws >> Ewrop". >> >> Anfonaf gopi o hwn at Duncan Brown a Twm Elias er gwybodaeth. >> >> (SYLWER: chwiliais ychydig cyn anfon hyn, a gweld BOD "six-toothed >> spruce bark beetle" ar gael hefyd! - Ann) >> >> Bruce >> >> On 24/03/2015 21:18, Sian Roberts wrote: >>> Ddefnyddiais i " chwilen wythdant rhisgl sbriws" rhyw dro. >>> A dwi'n gweld bod rhywun arall wedi defnyddio "chwilen rhisgl sbriws >>> wyth dant". >>> >>> Siān >>> >>> On 2015 Mawrth 24, at 9:03 PM, Cyfieithydd Achlysurol wrote: >>> >>>> Ips typographa yw hon, rhywogaeth sy'n gynhenid yn Ewrop ond sy'n >>>> prysur ddatblygu'n bla ar goed sbriws ym Mhrydain. >>>> >>>> Heb gael hyd i enw Cymraeg ar y we felly a fyddai 'chwilen rhisgl >>>> sbriws Ewrop(eaidd)' neu 'Chwilen Ewropeaidd rhisgl sbriws' yn addas? >>>> >>>> Diolch yn fawr >>> >>> No virus found in this message. >>> Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> >>> Version: 2015.0.5751 / Virus Database: 4315/9374 - Release Date: >>> 03/24/15 >>> >> > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com <http://www.avg.com> > Version: 2015.0.5751 / Virus Database: 4315/9385 - Release Date: 03/26/15 >