Print

Print


Annwyl bawb,
 
Arolwg cynhwysfawr o amgueddfeydd Cymru yw Sbotolau ar Amgueddfeydd, ac fe ymgymerwyd yn gyntaf yn 2006 ac eto yn 2011. Nawr hoffai CyMAL eich gwahodd i gyfrannu at arolwg Sbotolau 2015. Mae'r Tîm Datblygu Amgueddfeydd De Orllewin yn cynnal yr arolwg ar ran CyMAL a bydd yn cylchredeg y ddolen arolwg yn fuan.
 
Bydd yr arolwg yn gofyn ystod o gwestiynau, gan gynnwys cynulleidfaoedd, ymgysylltiad addysgol, gweithrediadau ariannol, y gweithlu a gwirfoddolwyr. Bydd hefyd yn cynnwys nifer o ddatganiadau ystod sy'n archwilio arferion amgueddfeydd presennol. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir drwy'r arolwg i fynegi effaith gymdeithasol ac economaidd amgueddfeydd yng Nghymru, llywio strategaeth genedlaethol; a hefyd bydd ar gael i amgueddfeydd i feincnodi eu perfformiadau.
 
Am y tro cyntaf, bydd y data y rhoddwch ar gael ar-lein mewn fformat fel y gallwch feincnodi eich data yn erbyn data Sbotolau arall yn hawdd. Rydym yn gobeithio y bydd rhan fwyaf o'r data gennych yn barod ar gyfer eich dibenion eiriolaeth eich hun, ond rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth wrth ei rannu.
 
Os ydych yn gallu cwblhau'r arolwg erbyn 20 Ebrill, byddwn yn gallu bwydo'r wybodaeth i mewn i'r Adolygiad Arbenigol Amgueddfeydd Lleol yng Nghymru. Byddwn yn gwerthfawrogi’ch cymorth yn fawr.
 
Cofion cynnes,
Karen Willans
Museums Development Officer | Swyddog Datblygu Amgueddfeydd
CyMAL: Museums Archives and Libraries Wales | CyMAL: Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru
Welsh Government | Llywodraeth Cymru
Ffon/Tel: 0300 062 2054
e bost/e mail: [log in to unmask]
Cyfeiriad/Address: Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
www.cymru.gov.uk/cymal / www.wales.gov.uk/cymal
Inclusion of third party information in the Current Awareness Service does not constitute an endorsement by CyMAL. CyMAL takes no responsibility for the quality of third party events, products or services featured in this Newsletter. Whilst every care is taken to provide accurate information, neither CyMAL nor the editor undertakes any liability for any error or omission.
 
Nid yw'r ffaith bod gwybodaeth trydydd parti wedi'i chynnwys yng Ngwasanaeth Gwybodaeth  CyMAL yn golygu bod CyMAL yn ei chymeradwyo. Nid yw CyMAL yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd digwyddiadau, cynhyrchion neu wasanaethau trydydd parti y sonnir amdanynt yn y Gwasanaeth hwn. Er ein bod wedi gwneud ein gorau i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn gywir, nid yw CyMAL na'r golygydd yn atebol am unrhyw gamgymeriad neu hepgoriad.
 
 
 

On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free. Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon. Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.