Print

Print


Cyfle olaf i neilltuo lle! Dim ond 4 lle sydd ar gael!

Cadernid Personol i Reolwyr

Amgueddfa Wrecsam
14 Ebrill 2015


Mae datblygu cadernid personol yn gymhwysedd pwysig ar gyfer rheolwyr yn y sector Amgueddfeydd, Archifau ac Llyfrgell. Mae'r sgiliau a'r technegau hyn yn chwarae rôl allweddol o ran helpu pobl i oroesi a ffynnu yn yr amgylchedd weithio heriol sy'n bodoli heddiw.

Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae’n addas i reolwyr a goruchwylwyr y gwasanaethau Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd yng Nghymru.

Dyluniwyd y gweithdy undydd hwn yn benodol i'ch galluogi i wella'ch cadernid personol a chadernid eich cydweithwyr.
Caiff ei ddarparu ar ffurf hyfforddiant cefnogol a bydd yn cynnwys sgiliau ymarferol ac adnoddau i chi eu cadw. Bydd y sesiynau'n ymarferol, gyda chymysgedd o drafodaethau ac ymarferion grŵp. Bydd y gweithdy'n cynnwys y canlynol:

•       Pennu gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion personol
•       Sicrhau a chynnal ffordd o fyw gytbwys
•       Datrys problemau'n greadigol
•       Ymwybyddiaeth ofalgar ac ailfframio
•       Sgliau o ran dylanwadu ar eraill
•       Hunanhyder, hunanbarch a hunanofal
•       Rheoli perffeithiaeth
•       Cydnabod a delio â straen a gorbryder

Hwyluswyr:
Mae Sue Thiedeman yn gyn-Gyfarwyddwr London Cultural Improvement Programme ac erbyn hyn mae’n Gyfarwyddwr STARcic ,sef cwmni buddiannau cymunedol a sefydlwyd i gefnogi'r sector diwylliant.

Mae Steve Wood yn Hyfforddwr Proffesiynol ac yn Uwch-ymarferydd mewn Rhaglennu Niwroieithyddol, sy'n arbenigol mewn cadernid personol a sefydliadol. Dros yr 19 mlynedd ddiwethaf mae wedi cefnogi cannoedd o bobl a thimau, yn enwedig yn y sectorau diwylliant a chwaraeon.

Mae Graham Wyles yn arbenigo mewn technegau Ymwybyddiaeth Ofalgar ac yn helpu pobl i gyflawni datblygiad personol cynaliadwy a newid eu hymddygiad, gan ddefnyddio'r sgiliau a ddatblygodd yn ystod gyrfa lwyddiannus o 30 mlynedd fel actor proffesiynol ac awdur.

Datganiad o ddiddordeb
I fynegi eich diddordeb yn y cwrs yma gwblhau'r ffurflen amgaeedig a’i ddychwelyd I [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>.


Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, bydd eich derbyn neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyniwyd. Os gwelwch yn dda nodi nad yw eich lle yn cael ei gwarantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan CyMAL.

Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Seaneen McGrogan ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> neu ffoniwch 0300 062 2261 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.

Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.



Seaneen McGrogan
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Datblygu'r Gweithlu
Collections, Standards and Workforce Development Assistant
CyMAL : Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru / CyMAL : Museums Archives and Libraries Wales
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261





On leaving the Government Secure Intranet this email was certified virus free.  Communications via the GSi may be automatically logged, monitored and/or recorded for legal purposes.
Wrth adael Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth nid oedd unrhyw feirws yn gysylltiedig â’r neges hon.  Mae’n ddigon posibl y bydd unrhyw ohebiaeth drwy’r GSi yn cael ei logio, ei monitro a/neu ei chofnodi yn awtomatig am resymau cyfreithiol.