Dw i'n cytuno efo Carolyn, mae elfennau rhywiaethol braidd i'r cysyniad o ladette, heb sôn am "lad culture" sy'n fôr o rywiaeth! (Os hoffech oleuni pellach ar hynny gweler bolisi gwrth-lad culture undeb myfyrwyr Caerdydd, nad yw ar gael yn Gymraeg hyd y gwn i: http://www.cardiffstudents.com/pageassets/about-cusu/policy/Anti-Lad-Culture-Policy.pdf)

Er hynny, os yw'r term yn cael ei arfer mae angen term Cymraeg (tra bo ni'n aros i'r cysyniad ddod i ben, gobeithio). Cytuno efo Matthew bod ladét yn bosib, ond dw inne hefyd yn ffafrio bathiad gwych Geraint, lades.

Osian



Ar 4 Chwefror 2015 am 14:09, Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]> ysgrifennodd:

Wel, gan taw gair Cymraeg ni’n moyn, Gorwel, ddim un Ffrangeg, w! Ac os ydyn ni’n cadw at ffurfiau Cymraeg traddodiadol fel ‘-es’, mae’n haws tynnu’r gair i mewn i’r Gymraeg (haws ffurfio’r lluosog ‘-esi’, mae’n cyd-fynd ag arferion yr orgraff Gymraeg ayyb.)

 

Wi’n hoffi bathiad Geraint – lades – mae’n syml ac yn cyd-fynd â’r holl ffurfiau traddodiadol ‘dynes’ ‘crotes’ ‘rhoces’ ‘llances’.

 

Ond wrth gwrs, i’r rhai sydd am ddilyn trywydd Gorwel, mae digon o enghreifftiau o Gymreigio’r terfyniad ‘–ette’ – sigarét, pirwét, silwét, bagét – felly byddai “ladét” yn cyd-fynd yn iawn â’r benthyciadau hynny.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Gorwel Roberts
Sent: 04 Chwefror 2015 12:16
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: ATB/RE: Ladette

 

Efallai fod ‘ladette’ yn dderbyniol fel y mae? Hynny yw, o ran mai terfyniad Ffrangeg sydd yma – os ydym yn fodlon derbyn ‘lades’ (lad + es) pam ddim lad + ette?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 04 Chwefror 2015 12:11
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Ladette

 

Ie - mae "llances" ar ei ben ei hunan yn cael ei ddefnyddio am yr hyn y mae GPC yn ei alw'n "llances fawr":

llances fawrself-important girl or woman. 

 

A "llanc", yn yr un modd: llanc mawrself-important person. 

 

Siân

On 2015 Chwef 4, at 11:55 AM, Geraint Lovgreen wrote:

 

Ie, mae dipyn o wahaniaeth rhwng llances a lades ddwedwn i.

On 04/02/2015 11:33, Sian Roberts wrote:

Mae "llances" ffor' hyn yn golygu "rhywun sydd â meddwl mawr ohoni ei hunan" - "Wel, mae honna wedi mynd yn llances"!

 

Siân

On 2015 Chwef 4, at 11:12 AM, Beryl H Griffiths wrote:

 

Be am 'llances' ?

 

Beryl

 

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen

Anfonwyd: 04 February 2015 11:04

At: [log in to unmask]

Pwnc: Re: Ladette

 

Cynnig da am 'ladette' fyddai 'lades'. Nid pob lodes sy'n lades cofiwch.

 

--

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.