Dw i'n cytuno efo Carolyn, mae elfennau rhywiaethol braidd i'r cysyniad o ladette, heb sôn am "lad culture" sy'n fôr o rywiaeth! (Os hoffech oleuni pellach ar hynny gweler bolisi gwrth-lad culture undeb myfyrwyr Caerdydd, nad yw ar gael yn Gymraeg hyd y gwn i: http://www.cardiffstudents.com/pageassets/about-cusu/policy/Anti-Lad-Culture-Policy.pdf ) Er hynny, os yw'r term yn cael ei arfer mae angen term Cymraeg (tra bo ni'n aros i'r cysyniad ddod i ben, gobeithio). Cytuno efo Matthew bod ladét yn bosib, ond dw inne hefyd yn ffafrio bathiad gwych Geraint, lades. Osian Ar 4 Chwefror 2015 am 14:09, Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]> ysgrifennodd: > Wel, gan taw gair Cymraeg ni’n moyn, Gorwel, ddim un Ffrangeg, w! Ac os > ydyn ni’n cadw at ffurfiau Cymraeg traddodiadol fel ‘-es’, mae’n haws > tynnu’r gair i mewn i’r Gymraeg (haws ffurfio’r lluosog ‘-esi’, mae’n > cyd-fynd ag arferion yr orgraff Gymraeg ayyb.) > > > > Wi’n hoffi bathiad Geraint – lades – mae’n syml ac yn cyd-fynd â’r holl > ffurfiau traddodiadol ‘dynes’ ‘crotes’ ‘rhoces’ ‘llances’. > > > > Ond wrth gwrs, i’r rhai sydd am ddilyn trywydd Gorwel, mae digon o > enghreifftiau o Gymreigio’r terfyniad ‘–ette’ – sigarét, pirwét, silwét, > bagét – felly byddai “ladét” yn cyd-fynd yn iawn â’r benthyciadau hynny. > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On Behalf Of *Gorwel > Roberts > *Sent:* 04 Chwefror 2015 12:16 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* ATB/RE: ATB/RE: Ladette > > > > Efallai fod ‘ladette’ yn dderbyniol fel y mae? Hynny yw, o ran mai > terfyniad Ffrangeg sydd yma – os ydym yn fodlon derbyn ‘lades’ (lad + es) > pam ddim lad + ette? > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On Behalf Of *Sian > Roberts > *Sent:* 04 Chwefror 2015 12:11 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: ATB/RE: Ladette > > > > Ie - mae "llances" ar ei ben ei hunan yn cael ei ddefnyddio am yr hyn y > mae GPC yn ei alw'n "llances fawr": > > *llances fawr*: *self-important girl or woman*. > > > > A "llanc", yn yr un modd: *llanc mawr*: *self-important person*. > > > > Siân > > On 2015 Chwef 4, at 11:55 AM, Geraint Lovgreen wrote: > > > > Ie, mae dipyn o wahaniaeth rhwng llances a lades ddwedwn i. > > On 04/02/2015 11:33, Sian Roberts wrote: > > Mae "llances" ffor' hyn yn golygu "rhywun sydd â meddwl mawr ohoni ei > hunan" - "Wel, mae honna wedi mynd yn llances"! > > > > Siân > > On 2015 Chwef 4, at 11:12 AM, Beryl H Griffiths wrote: > > > > Be am 'llances' ? > > > > Beryl > > > > -----Neges Wreiddiol/Original Message----- > > Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] Ar ran/On Behalf Of Geraint > Lovgreen > > Anfonwyd: 04 February 2015 11:04 > > At: [log in to unmask] > > Pwnc: Re: Ladette > > > > Cynnig da am 'ladette' fyddai 'lades'. Nid pob lodes sy'n lades cofiwch. > > > > -- > > Ymwadiad: > > Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor > a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion > a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r > angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun. > > Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) > y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y > neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges > hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai > chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef > neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, > dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni. > > O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir > datgelu cynnwys y negest ebost hon. > > Disclaimer: > > While reasonable care is taken to ensure the correctness of any > information and advice given in this correspondence no liability is > accepted for losses arising from any errors contained in it and you are > reminded of the need to obtain your own professional advice. > > The information in this email and any attachments is intended solely for > the attention and use of the named addressee(s). If you are not the > intended recipient, or person responsible for delivering this information > to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you > are the intended recipient or his/her representative you are not authorised > to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any > part of it. > > Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 > the contents of this email may be disclosed. >