Cyd-destun gwleidyddol sydd dan sylw - llythyr gan ymgeisydd i ddod y aelod o senedd gwladwriaeth Prydain yn gwahodd aelodau y blaid i gyfarfod lle caiff ei dewis yn swyddogol fel ymgeisydd. Mae hi eisoes wedi cael ei dewis, ond am wn i mai rhyw gyfarfod ffurfiol fydd y digwyddiad i roi sêl bendith.
Dyma enghreifftiau o adopt/adoption o'r llythyr:
Mr xx will be joining us for the evening to officially adopt me as the xx Parliamentary Candidate for xx.
I would love for you to attend my adoption meetingMy official adoption as the xx Candidate for xx will mark the true beginning of my campaignFyddai 'cael fy newis yn swyddogol' yn ffordd dderbyniol o gyfleu 'adoption'?