Rwy'n gwybod mai ffurf orberffaith ydyw ond fel y dywed David A Thorne: "There is a tendency for the pluperfect and imperfect forms to merge in contemporary Welsh" a doedd yr ystyr ddim yn glir i mi - nac i'r gŵr.

Siân

On 2015 Chwef 23, at 5:11 PM, Mary Jones wrote:

‘Could’ yw ystyr ‘gallai’, sef y ffurf amherffaith. Y ffurf orberffaith yw ‘gallasai’, sef ‘could have’. Mater arall yw bod drysu rhwng y ddwy ffurf mewn rhai rhannau o Gymru.
Mary
 
 
 
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 23 February 2015 14:13
To: [log in to unmask]
Subject: Re: might have been
 
Dwi'n meddwl, achos nad oes dim ymadrodd i gyfateb i 'might have been' nad oes angen y dyfynodau yn Gymraeg.
Hefyd, mae 'mynd â hi' yn cyfeirio at gamp benodol fel rheol - cystadleuaeth neu rywbeth.
Gan fod tipyn o ddryswch yn Gymraeg erbyn hyn rhwng ffurfiau'r berfau, dwi'n meddwl bod angen cynnwys "fod wedi".  Gallai "allasai" yn cyfleu'r ystyr "could" yn hytrach na "could have".
 
Gobeithio bod hyn o help i'r falwen!  Y gwenyn sy wedi bod yn fy nal i nôl bore 'ma!
 
 
Siân
 
 
 
 
On 2015 Chwef 23, at 1:52 PM, anna gruffydd wrote:


Diolch yn fawr i chi i gyd am eich cynigion, mae gen ii ddinadd i gnoi cil arno rwan - dwi'n meddwl mai rhoi'r ddwy frawddeg wrth ei gilydd ac ailwampio'n llwyr ydi'r ateb - fel ma rhywun weithia'n mynd fel malwan mewn triog, te, yn gneud ei ora glas i lynu at y gwreiddiol. Diolch eto.
 
Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
 
2015-02-23 12:54 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
... a oedd yn gerddor hynod addawol ond a gollwyd yn llawer rhy ifanc/ym mlodau ei dyddiau 
 
Siân
On 2015 Chwef 23, at 11:31 AM, anna gruffydd wrote:


Ia, ddylwn i fod wedi rhoi ychydig mwy o gyd-destun - mi fuo farw'n 24 oed, a dyna be nadodd iddi fynd a hi...
 
Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
 
2015-02-23 12:19 GMT+01:00 Sian Roberts <[log in to unmask]>:
Rhywbeth fel "yn gerddor gwych na lwyddodd i wireddu ei photensial"  neu "yn gerddor yr oedd disgwyl iddi gyrraedd yr uchelfannau ond ...."  Dibynnu beth ddigwyddodd, siŵr o fod
 
Siân
 
On 2015 Chwef 23, at 11:03 AM, anna gruffydd wrote:


Hunllef o frawddeg:- Lili Boulanger, younger sister of the famous teacher Nadia Boulanger, is one of music’s great ‘might have beens’.
 
Be sy gen i ar hyn o bryd ydi:-Yn Lili Boulanger, chwaer iau’r athrawes enwog Nadia Boulanger, gwelwn un o’r enghreifftiau amlwg ym myd cerddoriaeth o ‘rywun allasai fynd â hi’.
 
Os medar rhywun feddwl am rywbeth mwy ysbrydoledig, baswn wrth fy modd! Diolch
 
Anna