Print

Print


Os nad oes modd defnyddio’r foronen, beth am rywbeth fel Denu nid Dwrdio?

Carolyn

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones
Sent: 2 Chwefror 2015 17:25
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Better a carrot than a stick

 

Llai o siwgr yn hytrach na llai o fraster ydy ffocws y rhaglen. Fel arall, byddai hynny'n gynnig da.

Sent from my BlackBerry® wireless device


From: Sian Jones <[log in to unmask]>

Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>

Date: Mon, 2 Feb 2015 17:23:13 +0000

To: <[log in to unmask]>

ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>

Subject: Re: Better a carrot than a stick

 

Fyddai rhywbeth fel  'blas heb y bras'  yn gweithio?

 

Sian

> Date: Mon, 2 Feb 2015 17:19:45 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: Better a carrot than a stick
> To: [log in to unmask]
>
> Nid pawb sy'n cael pleser gan foron mae'n debyg.
>
> On 02/02/2015 17:12, Gareth Jones wrote:
> > Dyna oeddwn i'n ei feddwl, ond mae'r cleient yn anfodlon. Beth am rywbeth fel 'pleser, nid poen, yw (enw'r rhaglen)'.
> > Sent from my BlackBerry® wireless device
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
> > Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
> > Date: Mon, 2 Feb 2015 17:10:27
> > To: <[log in to unmask]>
> > Reply-To: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> > <[log in to unmask]>
> > Subject: Re: Better a carrot than a stick
> >
> > Dwi ddim yn gweld problem efo sôn am foronen a ffon yn Gymraeg - nid
> > idiom Saesneg ydi o yn gymaint â darlun ffeithiol o sut mae cael mul i
> > symud. Dwi'n siwr fy mod i wedi clywed yr ymadrodd yn Gymraeg fwy nag
> > unwaith.
> >
> > Geraint
> >
> > On 02/02/2015 16:57, Claire Richards wrote:
> >> Mae "You catch more flies with honey than with vinegar" yn ymadrodd Saesneg eitha cyfarwydd. O'r Unol Daleithiau yn wreiddiol, o bosibl? Mae yn y "McGraw-Hill Dictionary of American Idioms and Phrasal Verbs", yn sicr.
> >>
> >> Ond mae'r foronen 'ma'n dipyn o bos.
> >>
> >> Claire
> >>
> >> -----Original Message-----
> >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
> >> Sent: 02 February 2015 16:53
> >> To: [log in to unmask]
> >> Subject: Re: Better a carrot than a stick
> >>
> >> Cofiaf, pan oeddwn i'n ddysgu Cymraeg, rhyw hen ffermwr yn dweud wrthyf yn Saesneg "You catch more flies with honey than with vinegar". Synnwn i ddim petai o'n cyfieithu dywediad o'r Gymraeg, ond 'rwy'n amau, o ran bwyta'n iach, y byddai finegr (seidr) yn cael mwy o glod na mel, felly nid yw'r dywediad yn mynd i fod yn fawr o help ichi hyd yn oed os gall rhywun ddod o hyd iddo.
> >>
> >> Ann
> >> On 02/02/2015 16:34, Gareth Jones wrote:
> >>> Tybed a oes unrhyw un ohonoch yn gallu awgrymu idiom yn Gymraeg sy'n cyfle'r un neges? Cyfeiriad at raglen bwyta'n iach sydd yma:
> >>>
> >>> (Enw'r rhaglen) is a carrot not a stick.
> >>>
> >>> Sent from my BlackBerry(r) wireless device
> >>>
> >>> -----
> >>> No virus found in this message.
> >>> Checked by AVG - www.avg.com
> >>> Version: 2015.0.5645 / Virus Database: 4273/9043 - Release Date:
> >>> 02/02/15