O ie dyna syniad, o'n i heb feddwl am cydnaws, diolch Anna.

Osian

Ar 16 Chwefror 2015 am 17:10, anna gruffydd <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Fydda i weithia'n defnyddio cydnaws ar gyfer friendly - dwn i ddim os di hynny'n taro o gwbwl.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2015-02-16 17:49 GMT+01:00 Osian Rhys <[log in to unmask]>:
Pnawn da gyfeillion

Tybed ddaethoch chi ar draws family friendly rights?

Mae 'ystyriol o deuluoedd' yn TermCymru am family friendly (a 'polisi sy'n ystyriol o deuluoedd' am family friendly policy). Ond dydy 'hawliau sy'n ystyriol o deuluoedd' ddim yn taro'n iawn ryswut (na 'hawliau ystyriol o deuluoedd').

I fi mae'r term Saesneg ei hunan braidd yn rhyfedd. Hawl yw hawl fyswn i'n meddwl, mae'r friendly yn awgrymu rhyw lefel o hyblygrwydd annisgwyl... Fyddai jyst hawliau teuluol yn gwneud y tro? Neu ydy hynny'n wahanol? Yn y niwl braidd.

Diolch yn fawr

Osian