Dwi wastad yn dilyn y ddolen, wedyn os oes botwm Cymraeg ar y wefan
dwi'n clicio ar hwnnw, ac yn copïo cyfeiriad y ddolen Gymraeg i'w
roi yn y cyfieithiad. Os nad oes tudalen Gymraeg gan y wefan, gadael
y ddolen fel y mae.
Yn yr achos yma, os mai gwefan uniaith Saesneg sydd yno, yna gadael
y ddolen yn Saesneg.
Geraint
On 12/02/2015 12:13, MELANIE DAVIES
wrote:
Bydden i'n gofyn i'r cwsmer a oes dolenni Cymraeg yn
bodoli, ond os nad oes dolenni Cymraeg ar gael, mae'n siwr y
bydd rhaid i ti eu gadael nhw'n Saesneg. Byddai ddim pwynt
cyfieithu enwau'r dolenni oherwydd bydden nhw'n arwain at
neges sy'n datgan gwall yn y cyfeiriad.
Melanie
Prynhawn da,
Rwy'n cyfieithu taflen wybodaeth, ac mae'n sôn bod
gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Brydeinig uniaith
Saesneg. Mae'n dweud wrth y darllenydd yr union ddolenni
i'w dilyn, ac wrth gwrs, mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn
unig. A ddylwn i adael y dolenni hyn yn Saesneg, neu eu
cyfieithu i'r Gymraeg?
Diolch ymlaen llaw am eich cyngor.
Meinir