Print

Print


Bydden i'n gofyn i'r cwsmer a oes dolenni Cymraeg yn bodoli, ond os nad oes dolenni Cymraeg ar gael, mae'n siwr y bydd rhaid i ti eu gadael nhw'n Saesneg. Byddai ddim pwynt cyfieithu enwau'r dolenni oherwydd bydden nhw'n arwain at neges sy'n datgan gwall yn y cyfeiriad.

Melanie
 

________________________________
 From: Meinir Thomas <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] 
Sent: Thursday, 12 February 2015, 12:04
Subject: Dolenni mewn gwefannau uniaith Saesneg
  

Prynhawn da,

Rwy'n cyfieithu taflen wybodaeth, ac mae'n sôn bod gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Brydeinig uniaith Saesneg. Mae'n dweud wrth y darllenydd yr union ddolenni i'w dilyn, ac wrth gwrs, mae'r dolenni hyn yn Saesneg yn unig. A ddylwn i adael y dolenni hyn yn Saesneg, neu eu cyfieithu i'r Gymraeg?

Diolch ymlaen llaw am eich cyngor.

Meinir