[log in to unmask]"
type="cite">Wedi dod ar
draws gwefan ddiddorol yn sôn am enwau creaduriaid - dweud pa
rai sy'n enwau dilys a pha rai sydd heb eu dilysu.
Roeddwn i'n chwilio
am enwau gweision y neidr e.e. gwahanol fathau o "darter"
Roedd Llyfr Natur
Iolo a GyrA yn rhoi "picellwr" am "darter" a'r Porth Termau yn
rhoi "gwäell".
Roeddwn i'n meddwl bod
"picellwr" yn swnio fel pe bai'r creadur yn taflu "dart" a "gwäell" yn swnio fel pe bai ar
ffurf "dart" yn hytrach na'i fod yn symud yn sydyn. Ond
mae'r wefan uchod yn dweud bod y ddau enw yn "well-formed".
Ro'n i wedi bod yn sôn am
wahanol enwau ar yr oyster-catcher - mae 'na gant a mil o
enwau lleol arno ond yr unig enw yn y rhestr hon yw "pioden
fôr" ac mae hwnnw yn "badly formed / unverified".
Difyr!!
O'n i'n meddwl bod 'pioden y môr' wedi hen ennill ei blwy - dyna'r
enw sydd yn y llyfr 'Pa Aderyn' - llyfr Saesneg a addaswyd i'r
Gymraeg gan y diweddar Ted Breeze Jones. Onid oedd e'n dipyn o
arbenigwr?