On 04/02/2015 09:18, Sian Roberts wrote: > Wedi dod ar draws gwefan ddiddorol yn sôn am enwau creaduriaid - dweud > pa rai sy'n enwau dilys a pha rai sydd heb eu dilysu. > > https://data.nbn.org.uk/Taxa/NBNSYS0000005638 > > Roeddwn i'n chwilio am enwau gweision y neidr e.e. gwahanol fathau o > "darter" > Roedd Llyfr Natur Iolo a GyrA yn rhoi "picellwr" am "darter" a'r Porth > Termau yn rhoi "gwäell". > Roeddwn i'n meddwl bod "picellwr" yn swnio fel pe bai'r creadur yn > taflu "dart" a "gwäell" yn swnio fel pe bai ar ffurf "dart" yn hytrach > na'i fod yn symud yn sydyn. Ond mae'r wefan uchod yn dweud bod y ddau > enw yn "well-formed". > > Ro'n i wedi bod yn sôn am wahanol enwau ar yr oyster-catcher - mae 'na > gant a mil o enwau lleol arno ond yr unig enw yn y rhestr hon yw > "pioden fôr" ac mae hwnnw yn "badly formed / unverified". > > Difyr!! > > O'n i'n meddwl bod 'pioden y môr' wedi hen ennill ei blwy - dyna'r enw sydd yn y llyfr 'Pa Aderyn' - llyfr Saesneg a addaswyd i'r Gymraeg gan y diweddar Ted Breeze Jones. Onid oedd e'n dipyn o arbenigwr? Nia