PWYSIG – Neges i fusnesau twristiaeth
Rydym wedi cael ar wybod bod nifer o fusnesau twristiaeth ym mhob rhan o Gymru wedi cael galwad ffôn yn honni eu bod i gael ad-daliad gan Croeso Cymru am ddeunydd hysbysebu. Gofynnir
wedyn iddynt roi eu manylion cerdyn credyd.
Nodwch, os gwelwch yn dda, nad yw’r gwalwadau ffôn hyn yn unrhyw beth i’w wneud â Croeso Cymru, a’u bod yn achos posibl o DWYLL.
Os ydych chi wedi derbyn galwad ffôn o’r fath, dylech roi gwybod i
Action Fraud
Os oes rhywun wedi cysylltu â chi a’ch bod wedi rhoi manylion eich cerdyn credyd, dylech gymryd camau gweithredu ar unwaith.
|